020 8575 0237
info@ygll.co.uk

Croeso gan y Brifathrawes

Croeso gan y Brifathrawes

Croeso cynnes i wefan Ysgol Gymraeg Llundain.

Rydym yn ysgol fechan a bywiog wedi ei lleoli yng nghyffiniau Ealing. Rydym yn unigryw yn Llundain gan ein bod yn addysgu yn Gymraeg a Saesneg, gan annog y disgyblion i siarad Cymraeg. Rydym yn defnyddio’r Cwricwlwm Cymreig sy’n newydd a chyffrous, ac fe wneir hyn mewn awyrgylch ddiogel a meithringar. Cymerwn falchder mawr yn llwyddiannau ein disgyblion boed hwy’n academaidd, ddiwylliannol neu bersonol, ac mae’r amgylchedd yn un sy’n canolbwyntio ar y plant.

O fewn dinas fawr, gosmopolitanaidd, mae ein disgyblion yn dysgu i fod yn ddinasyddion da tra hefyd yn cynnal hunaniaeth Gymreig drwy ddysgu am eu treftadaeth. Cymerwn ran mewn gweithgareddau yn y gymuned leol yn Hanwell ond mae gennym yr ymdeimlad o berthyn i gymdeithas Gymreig a Chymraeg ehangach boed hynny yn Llundain neu Gymru.

Mae’r Staff, Bwrdd y Cyfarwyddwyr, y rhieni a chefnogwyr yr ysgol i gyd yn rhannu’r un nôd o gynnal safonau addysgol uchel a sicrhau bod ein disgyblion yn ffynnu yn ein hysgol unigryw.

Gobeithio y mwynhewch eich taith drwy ein gwefan.

Ms Julie K Watkins
Prifathrawes