Diwrnodau Agored
Dyma ragor o wybodaeth am Ddiwrnodau Agored ar gyfer darpar-rieni yn Ysgol Gymraeg Llundain.
Diwrnod Agored yr Haf
Awyddus i’ch plentyn dderbyn addysg gynradd ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg? Dewch i ymweld â ni!
Cynhelir ein Diwrnod Agored nesaf ar ddydd Gwener 15fed Gorffenaf 2022 rhwng 10.00yb a 2.00yp.
Bydd cyfle i weld pob rhan o’r ysgol ar waith o’n Grŵp Babanod a Phlant Bach, sef Miri Mawr, i’n sesiynau Blynyddoedd Cynnar, i’n gwersi i’r plant hŷn.
Bydd hefyd cyfle i gwrdd â’r Athro Arweiniol, staff yr ysgol, cynrychiolwyr o Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn ogystal â rhieni rhai o’n disgyblion.
Am ragor o wybodaeth neu er mwyn neilltuo lle, cysylltwch ag info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y diwrnod!
