020 8575 0237
info@ygll.co.uk

Newyddion Diweddaraf

Gwibdaith i’r Amgueddfa Hanes Naturiol
Mwynheuodd disgyblion dosbarth Robin Goch eu gwibdaith i’r Amgueddfa Hanes Naturiol yn fawr ddoe. Yn ogystal â mwynhau llawer o’r arddangosion sydd gan yr amgueddfa i’w cynnig, cafodd y disgyblion gyfle i weld sioe am y môr a sut mae’n cael ei effeithio gan newid hinsawdd. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

Gŵyl Halibalw Llundain
Bydd Ysgol Gymraeg Llundain yn rhan o Ŵyl Halibalw Llundain unwaith eto eleni. Bydd cyfle i fwynhau lluniaeth, cymryd rhan mewn gweithgareddau crefftau, prynu llyfrau Cymraeg, teganau a dillad ynghyd â chael tatŵ. Bydd y cyfan yn digwydd yng Nghanolfan Cymry Llundain ar ddydd Sadwrn 29ain Hydref rhwng 10.30 a 14.30.

Emporiwm Nwyddau Cymreig
Rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd gennym ni stondin yn yr Emporiwm Nwyddau Cymreig yng Nghanolfan Cymry Llundain, ar ddydd Sadwrn 22ain Hydref. Bydd yr emporiwm ar agor rhwng 10.30 a 17.30. Dewch i’n gweld ni i ddweud ‘helo’ ac i glywed am bopeth sy’n digwydd yn ein hysgol fach, arbennig ni ar hyn o bryd.

Gêm Clwb Rygbi Cymry Llundain
Diolch o galon i Glwb Rygbi Cymry Llundain am y croeso cynnes ddydd Sadwrn (17eg Medi). Cawsom ni ein gwahodd i fod yn rhan o agoriad gêm gyntaf y tymor trwy chwifio baneri a bloeddio wrth i’r chwaraewyr gyrraedd y cae. Diolch hefyd i Angela am ffilmio’r digwyddiad. Ewch draw i’n tudalennau Facebook, Twitter ac Instagram i weld y cyfan.

Ymweliad Newyddion ITV Llundain
Diolch yn fawr i Daniel a Mike o Newyddion ITV Llundain am ymweld â ni heddiw (dydd Gwener 16eg Medi). Daethon nhw atom ni i glywed ymateb y plant i ymweliad cyntaf y Brenin Siarl â Chymru. Cawson ni ein ffilmio yn gwylio’r cyfan ar S4C. Siaradodd y plant yn dda iawn ac rydym ni’n falch iawn o bob un ohonyn nhw!

Newyddion Diweddaraf

Dyma’r newyddion diweddaraf o Ysgol Gyrmraeg Llundain.

Dewch i ymuno â ni dydd Sadwrn yma, Ebrill 22ain yn yr ysgol yng Nghanolfan Cymunedol Hanwell

Sioe Nadolig yr Ysgol 2022
Rydym ni’n hapus iawn i gyhoeddi y bydd ein Sioe Nadolig yn cael ei chynnal ar ddydd Iau 8fed Rhagfyr 2022 yma yng Nghanolfan Gymunedol Hanwell. Gwnewch nodyn o’r dyddiad yn eich dyddiaduron!

Diweddariad Gŵyl Halibalw Llundain
Fel y gwyddoch, bydd Ysgol Gymraeg Llundain yn rhan o Ŵyl Halibalw unwaith eto eleni. Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd Heini, cymeriad arall o Cyw S4C bellach yn mynychu. Gweler isod am y poster wedi’i ddiweddaru:

Sesiynau Ioga
Diolch yn fawr i Almon Caspersz am ddod i’r ysgol ac am gynnal sesiynau ioga Cymraeg gyda Dosbarth Robin Goch a Miri Mawr. Roedd pob un o’r plant a’r oedolion wir wedi mwynhau.

Bore Agored yr Hydref
Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi dyddiad ac amser ein Bore Agored yr Hydref. Cynhelir y digwyddiad rhwng 10.00yb a 12.00yp ddydd Sadwrn 12fed Tachwedd. Os hoffech gadarnhau eich presenoldeb, neu dderbyn mwy o wybodaeth, cysylltwch ag info@ysgolgymraegllundain.co.uk.