Trefniadau Meithrin
Derbynnir plant i’r Adran Feithrin ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.
Estynnir gwahoddiad i rieni i ymweld â’r ysgol yn ystod y tymor cyn bod eu plant yn cychwyn.
I blant o dan 5, mae’r ‘Nursery Education Grant’ yn medru talu am 15/30 awr yr wythnos. Heblaw hynny, cost y sesiwn yw £30. Cysylltwch â’r swyddfa am fwy o fanylion.
Trefniadau Dosbarth Derbyn
Derbynnir plant yn y Dosbarth Derbyn yn y mis Medi wedi iddynt droi yn 4 oed.