020 8575 0237
info@ygll.co.uk

Llywodraethwyr

Llywodraethwyr

Rheolir yr ysgol gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gymuned Cymry Llundain, ac fe’i gelwir yn ‘The Welsh Schools Trust Limited’  (Cyfeiriad Y Swyddfa Gofrestredig – 73 Cornhill, Llundain, EC3V 3QQ)

Os yr hoffech gysylltu â’r Bwrdd, neu aelod o’r Bwrdd, medrwch gyfeirio eich llythyron i’r ysgol sef Ysgol Gymraeg Llundain, Hanwell Community Centre, Westcott Cresent, Hanwell. W7 1PD, neu gysylltu â Glenys Roberts Y Cadeirydd trwy ebost glenysroberts@ysgolgymraegllundain.co.uk   neu Ceredig Thomas, yr Is-gadeirydd ar ceredigthomas@ysgolgymraegllundain.co.uk 

Mae’r Bwrdd yn cymryd cyfrifoldeb am y ffordd y mae’r ysgol yn cael ei harwain wrth sicrhau bod egwyddorion sylfaenol yr ysgol, sef safon uchel ddwyieithog o addysg yn cael ei ddarparu i bob disgybl.
Canolbwyntir yn bennaf ar dair swyddogaeth strategol craidd:
1. Sicrhau eglurder gweledigaeth, ethos a chyfeiriad strategol.
2. Dal yr Athrawes Arweiniol i gyfrif am berfformiad addysgol yr ysgol a’i disgyblion, a rheoli perfformiad y staff.
3. Sicrhau rheolaeth ariannol ddoeth yr ysgol a gwneud yn siwr bod yr arian yn cael ei wario’n dda.

Fe reolir y cyfrifoldebau yma gan isbwyllgorau sydd yn adrodd i’r Prif Fwrdd sydd yn cyfarfod dwy waith y tymor.

Gweler isod am fwy o wybodaeth am Y Bwrdd.

Dyma Aelodau’r Bwrdd: –

Cadeirydd , Cwricwlwm a Safonau, a Chyllid- Mrs Glenys Roberts

glenysroberts@ysgolgymraegllundain.co.uk

Yn enedigol o Lanelian ger Bae Colwyn, fe gychwynnodd gysylltiad Glenys â’r Ysgol Gymraeg ym 1989 pan ddechreuodd ei merch Alys ac yna ei mab Aled yn y Cylch Mam a’i Phlentyn.  Cymerodd hi awenau’r Cylch ac yn ddiweddarach bu’n arweinydd yr Ysgol Feithrin ac yn dysgu’n rhan amser yn yr ysgol.  Erbyn hyn mae Glenys yn dysgu mewn ysgolion yng Ngorllewin Llundain, a bydd ei phrofiad yn y byd addysg yn werthfawr i rediad yr Ysgol.

Is-gadeirydd, Cofrestr Risg – Mr Ceredig Thomas

Ganwyd a magwyd Ceredig yn Bangor, graddiodd â gradd Peirianeg Sifil yng Ngholeg Prifysgol Manceinion.  Mae Ceredig yn beiriannydd siartredig ac wedi gweithio ar nifer o brosiectau peirianeg sifil ac adeiladu ym Mhrydain, nifer yn Llundain.  Mae gan Ceredig dri o blant, i gyd wedi cael addysg gynradd yn Ysgol Gymraeg Llundain.

Cyllid – Mrs Angela Robinson

Daw Angela yn wreiddiol o Ddinbych, Gogledd Cymru. Symudodd i Lundain i fynd i’r London School of Economics. Ar ôl graddio, cymhwysodd fel Cyfrifydd  a bu’n gweithio am 27 mlynedd fel archwilydd. Mae hi bellach yn ymgynghorydd ar gyfer Swyddfeydd Teulu Rhyngwladol.

Ms Rhiannon Evans

Wedi’i geni yn Llundain, mae Rhiannon yn Gymraes Llundain y drydedd genhedlaeth, ac mae’n falch ei bod wedi cael ei magu gyda’r Gymraeg yn famiaith iddi. Fel cyn-ddisgybl o Ysgol Gymraeg Llundain, dim ond atgofion hapus sydd gan Rhiannon o’i chyfnod yn yr ysgol. Ar hyn o bryd mae hi’n rheolwr yng Nghanolfan Cymry Llundain, Grays Inn Road

Mrs Carole Ann Boyce

Yn wreiddiol o Folkstone ac yn dal i fyw yn Tonbridge, graddiodd Carole yn Naearyddiaeth ac Astudiaethau Cymraeg o Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, cyn mynd ymlaen i’r Drindod, Caerfyrddin i gymhwyso fel athrawes gynradd.  Mae ganddi bedair merch, ac ers iddi ‘ymddeol’ o’i swydd ddiwethaf, mae hi wedi dechrau dysgu Cymraeg i oedolion.

Dr Catherine Emmerich

Yn enedigol o Fachynlleth, graddiodd Catherine o Brifysgol Caerdydd. Gweithiodd i nifer o gwmnïau fferyllol a chemegol cyn ymddeol yn 2022. Tra roedd ei phlant yn ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Llundain, arweiniodd y tîm a sefydlodd ac a gynhaliodd cyfres o ddigwyddiadau ‘Cinio Haf ‘ i godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at yr ysgol.

Mrs Jane Jones

Dechreuodd gyrfa Jane fel nyrs yn Llandudno cyn symud i Gabon i fod yn agos i adre oherwydd bod ei Nain yn sâl. Yn dilyn damwain, lle torrwyd fy asgwrn cefn, dychwelodd i’r coleg i hyfforddi fel athrawes. Ar ôl cymhwyso dysgodd mewn ysgol yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, yna priodi a symud i Lundain. Mae wedi gweithio fel athrawes ddosbarth, arweinydd cyfnod, ac yn ddiweddar, bu’n Gydlynydd Anghenion Arbennig a Phennaeth Cynorthwyol mewn ysgol gynradd yn Southall.

Cynrychiolydd y Rhieni – Dr Lynne Sykes

Mae Lynne o Wrecsam yn wreiddiol. Aeth I Ysgol Bodhyfryd ac wedyn Ysgol Morgan Llwyd.
Symudodd I Lundain I astudio meddygaeth. Mae hi’n gweithio fel Obsetrician Academaidd yn St
Mary’s Hospital/ Imperial College. Mae ei phlant hi wedi bod yn ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain
ers 2015.

ClercMrs Eleri Brady eleribrady@ysgolgymraegllundain.co.uk

Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae’r ysgol wedi bod yn rhan o fywyd Eleri ers dros 30 mlynedd. Roedd ei 5 mab yn ddisgyblion yn yr ysgol, ac mae’n sicr bod hyn wedi bod yn bwysig iawn i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw yn y cartref.

Y Bwrdd Llywodraethol – Pwrpas Bwrdd y Llywodraethwyr

Presenoldeb Y Bwrdd – Board Attendance 2021 – 22

The role of Governors

School Governance regulations

Sut i ddod yn Lywodraethwr? – How to Become a Governor 

Register of Interests and Directors’ Details 

Adroddiad y Bwrdd 2021 – 2022 – Board-of-Directors-Annual-Report-2021-22-2

Adroddiad y Bwrdd 2020-2021 Board-of-Directors-Annual-Report-2020-21-2

Adroddiad Blynyddol i’r Rhieni – 2019 -2020 _Adroddiad Blynyddol i’r Rhieni Gorffennaf 2019-2020

Adroddiad Blynyddol i’r Rhieni 2018: Adroddiad Blyndyddol y Bwrdd Meh 2017-18

Adroddiad Blynyddol i’r Rhieni : Adroddiad Blynyddol (C) B Ll YGLl 2016-17

Adroddiad Blynyddol i’r Rhieni (Saesneg): Annual Report to Parents 2015-2016

YGLL Board of Directors CODE OF CONDUCT

Dyma ein Cynllun Strategol: Cynllun Strategol yr ysgol 2019-2023