020 8575 0237
info@ygll.co.uk

Hanes

Hanes

Dechreuwyd yr ysgol yn ôl ym 1958 gan grŵp o dadau oedd yn gyrru eu plant i wersi Cymraeg yn Llundain bob bore Sadwrn. Ar ôl llawer o drafod a brwydro agorwyd yr ysgol gyda deg ar hugain o ddisgyblion.

Roedd hi’n anrhydedd i ni groesawu’r Gwir. Anrh. Carwyn Jones AS i’r ysgol ym mis Rhagfyr 2015 i ddathlu agoriad swyddogol yr ysgol yn ein lleoliad newydd yng Nghanolfan Gymunedol Hanwell.

60 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r ysgol yn dal i fynd yn gryf ac fe ddathlon ni’r garreg filltir hon gyda chyngerdd, gwasanaeth ac wrth gwrs parti. Mae ‘A Fynn a Fedr’ , arwyddair yr ysgol, hefyd yn deitl ar lyfr sy’n amlinellu hanes yr ysgol o’r cychwyn hyd heddiw.