020 8575 0237
info@ygll.co.uk

Pedwar Diben

Pedwar Diben

Dyma ragor o wybodaeth am sut rydym ni’n rhoi Pedwar Diben Cwricwlwm i Gymru 2022 ar waith yn Ysgol Gymraeg Llundain.

Mae Pedwar Diben y cwricwlwm, fel yr amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus, wedi bod yn sail i’r holl waith o gynllunio a datblygu Cwricwlwm i Gymru 2022. Dyma’r man cychwyn ar gyfer pob penderfyniad am Gwricwlwm i Gymru 2022 a dylid dylunio a llywio cwricwla ar lefel ysgol yn unol â’r pedwar diben hwn. Mae ‘cwricwlwm’ yn cynnwys yr holl brofiadau dysgu a gweithgareddau asesu a gynlluniwyd er mwyn cyflawni Pedwar Diben y cwricwlwm, sef datblygu plant a phobl ifanc i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae Cwricwlwm i Gymru 2022 wedi’i gynllunio i helpu pob dysgwr i wireddu’r Pedwar Diben hyn. Mae pob diben yn fwy na phennawd; fe’u disgrifir hefyd yn nhermau nodweddion allweddol. Dylent, yn eu cyfanrwydd, fod yn sail i’r holl addysgu a dysgu o fewn Cwricwlwm i Gymru.

Rydym yn hyrwyddo’r Pedwar Diben i’n disgyblion drwy’r cymeriadau canlynol:

Arddangosir y cymeriadau hyn o amgylch yr ysgol a chyfeirir atynt yn rheolaidd yn ystod gwersi ac amserau chwarae.

Mae’r Pedwar Diben hefyd yn ganolog i system gydnabyddiaeth yr ysgol, ac fe’u arddangosir gan y ffaith bod ein ‘tocynnau clod’ a’n tystysgrifau wedi’u seilio ar gymeriadau’r ‘Pedwar Pwerus’. Pan fydd disgyblion wedi cael wythnos ragorol o gyflawniad, caiff hyn ei gydnabod a’i ganmol yn ein gwasanaethau wythnosol. Bydd disgyblion yn dod adref o bryd i’w gilydd gyda thystysgrif ‘tocynnau clod’ am eu bod wedi ennill y nifer fwyaf o bwyntiau clod yn eu dosbarth yn ystod yr wythnos honno, neu dystysgrif ‘Pedwar Pwerus’ am iddyn nhw arddangos rhinweddau un neu fwy o’r Pedwar Diben yn ystod yr wythnos.