020 8575 0237
info@ygll.co.uk

Cwricwlwm

Cwricwlwm

Datganiad Cwricwlwm Ysgol Gymraeg Llundain

Bwriad

Bwriad y cwricwlwm yn Ysgol Gymraeg Llundain yw darparu addysg ddwyieithog sydd yn eang ac yn gytbwys ac sy’n diwallu anghenion pob plentyn. Mae’n rhoi cyfleoedd i blant ddatblygu yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus ac yn unigolion iach a hyderus sy’n gwybod sut i wneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned leol, y gymuned Gymreig a’r gymdeithas ehangach. Mae’r cwricwlwm yn hyrwyddo creadigrwydd ac arloesedd, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, effeithiolrwydd personol a chynllunio a threfnu sgiliau. Mae’r cwricwlwm yn dysgu plant i ddathlu amrywiaeth a pharchu gwahaniaethau, i fod yn ymwybodol o’u hawliau nhw a hawliau eraill yn ogystal â chefnogi eu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol, gan sicrhau eu bod yn barod iawn ar gyfer bywyd yn y Brydain fodern.

Gweithredu

Yn ogystal ag ymgorffori gofynion statudol fframwaith Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar a’r Safonau Ysgolion Annibynnol, mae’r cwricwlwm yn darparu dysgu a phrofiadau pwrpasol i blant drwy’r Cwricwlwm i Gymru arloesol. Mae dull cwricwlwm wedi’i flocio ar waith yn yr ysgol i sicrhau ymdriniaeth a chynnydd ar draws pob un o’r chwe maes. Mae’r dull hwn yn galluogi dysgu trawsgwricwlaidd, gan feithrin chwilfrydedd a diddordeb pob plentyn yn ogystal â chaniatáu datblygiad cyson eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae cyfleoedd ar gyfer llais y plentyn yn cael eu cynllunio ar ddechrau pob cyd-destun dysgu newydd a defnyddir hyn i sicrhau bod dysgu a phrofiadau’r plant yn berthnasol iddyn nhw.

Mae’r ysgol yn ymfalchïo mewn darparu amgylchedd hynod gynhwysol, gyda chwricwlwm sy’n caniatáu i blant o bob gallu a sydd â phob math o ddiddordebau i wirioneddol fwynhau yn ogystal â’r cyfle i wneud cynnydd da iawn ym mhob maes dysgu a phrofiad. Mae plant o fewn pob cam cynnydd a lefelau’n cael eu helpu i gyflawni eu llawn botensial. Mae’r cwricwlwm yn herio’r rhai sy’n fwy abl, dawnus a thalentog drwy gynnig dysgu a phrofiadau ar fwy o ddyfnder. Mae’r cwricwlwm yn annog plant sydd angen cefnogaeth arbennig drwy gynnig ymyraethau wedi’u targedu i ymgorffori sgiliau, i ddatblygu ar eu cyflymder eu hunain neu, yn syml, i ddysgu mewn arddull sy’n gweddu orau i’w hanghenion unigol.

Cynigir amserlen amrywiol o weithgareddau allgyrsiol gan yr ysgol, gyda darpariaeth gofalcofleidiol a chlybiau sy’n cefnogi ac sy’n gyson â bwriad cwricwlwm yr ysgol. Mae’r amserlen allgyrsiol yn cynnig cyfle i blant ddatblygu sgiliau arbenigol, fel canu neu ganu’r piano, ac ar yr un pryd ymestyn eu dewis o brofiadau, megis perfformio ar y llwyfan mewn Eisteddfodau cenedlaethol.

Mae’r ysgol yn monitro, gwerthuso ac adolygu ei chwricwlwm yn barhaus ac mae dathlu arfer da yn cyfrannu at yr ymrwymiad parhaus i esblygu a gwella ymhellach. Mae’r holl staff yn cael hyfforddiant a’r cyfle i barhau i ddatblygu eu gwybodaeth mewn meysydd dysgu a phrofiad a sgiliau trawsgwricwlaidd, fel y gallant gefnogi datblygiad y cwricwlwm ar draws yr ysgol.

Traweffaith

Mae’r arfer arloesol ar draws yr ysgol yn darparu sylfaen academaidd gref i blant ac yn ogystal â chynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu sgiliau cymdeithasol dan do a thu allan. Mae dyluniad y cwricwlwm yn sicrhau y gellir diwallu anghenion grwpiau bach o blant a phlant unigol o fewn amgylchedd addysgu o ansawdd uchel, wedi’i gefnogi gan ymyraethau sydd wedi’u targedu ac wedi’u profi, lle bo hynny’n briodol.

Mae mwynhad o’r cwricwlwm yn hybu cynnydd, hyder ac ymddygiad cadarnhaol. Mae plant yn teimlo’n ddiogel i drio pethau newydd. Mae ymweliadau o ansawdd uchel ac ymwelwyr â’r ysgol yn gwella’r cwricwlwm ac yn cynnig cyfleoedd i ysgrifennu at bwrpas. Mae plant yn cael cyfleoedd i rannu eu dysgu gyda’i gilydd, gyda rhieni a gofalwyr a dysgwyr eraill drwy arddangosfeydd, perfformiadau a chystadlaethau yn yr ysgol ac allanol.

Tudalennau perthnasol: