020 8575 0237
Ein Dosbarthiadau
Cam Cynnydd 1
Croeso i dudalen we’r Meithrin a Derbyn.
Gwybodaeth Gyffredinol:
Ymarfer Corff: Rydym yn cynnal dau sesiwn addysg gorfforol bob wythnos (dydd Llun a dydd Mercher). Bydd angen i'ch plentyn wisgo crys-T,
siorts neu jogyrs a threinyrs.
Llaeth a Ffrwythau: Rydym yn darparu llaeth i blant bob dydd ond gofynnwn yn garedig i chi ddarparu ffrwyth a byrbryd i'ch plentyn gyda’u bocs
bwyd. Rydyn ni'n cael dau amser egwyl, un yn y bore a’r llall yn y prynhawn, i fwynhau ein ffrwythau a byrbrydau.
Cam Cynnydd 2
Croeso i dudalen y we Cam Cynnydd 2
Rydym wrth ein boddau yn dysgu trwy chwarae, darganfod, darllen, gwylio fideos, siarad, ysgrifennu, chwarae gemau a chreu. Mae digon o
chwerthin yn ein gwersi oherwydd bod ein hathrawon yn wych ac mae dysgu yn llawer o hwyl!
Rydym yn ddosbarth sy'n golygu ein bod ni’n cael llawer o sylw personol gan yr athrawon sy'n deall ein hanghenion ac yn datblygu ein
talentau mewn ffyrdd diddorol.
Rydym yn caru gweithio gyda'n gilydd mewn parau a grwpiau yn ogystal ag yn annibynnol. Ni’n cael cyfleoedd i weithio gyda'r plant hŷn ac
iau pan fo’r gweithgareddau o fudd i bawb, megis y gweithdy Serameg a'r gystadleuaeth Coginio ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Aethom ar
deithiau hwyliog gyda’n gilydd eleni hefyd, fel y daith sinema i weld ‘Wonka’ a'r ymweliad ag Amgueddfa Drafnidiaeth Llundain.
Ein thema y tymor hwn ydy 'Teithio'.
Gwybodaeth Gyffredinol:
Ymarfer Corff: Rydym yn cynnal dau sesiwn addysg gorfforol bob wythnos (Dydd Llun a Dydd Mercher). Mae rhaid gwisgo cit ymarfer
corff yr ysgol, sef:
•
siorts (haf yn unig) / tracwisg
•
crys-T coch/melyn/gwyrdd (yn dibynnu ar ba dŷ y mae eich plentyn ynddo) gyda logo yr ysgol
•
treinyrs
Ffrwythau: Rydym yn dilyn polisi bwyta’n iach. Rydyn ni’n annog pob disgybl i ddod â ffrwythau a byrbrydau iach ar gyfer amser egwyl yn
ogystal â'u bocsys bwyd.
Dyma rhai o’n hoff ddolennau ni:
S4C Cyw Tiwb: S4C Cyw Tiwb
BBC Y Goeden Greu: BBC Y Goeden Greu
Straeon Alun yr Arth: Alun yr Arth
BBC Cymru Dysgu Cynradd: BBC Dysgu Cynradd
Amser Stori, Saesneg: Gwrando ar lyfrau Saesneg
Coeden Darllen Rhydychen: Coeden darllen Rhydychen
Darllen Co: Darllen Co
Topmarks: Top Marks gemau Mathemateg CC2
Top Marks: Top Marks gemau Saesneg CC2
BBC Bitesize: BBC Bitesize CA1
Cam Cynnydd 3
Croeso i dudalen y we Cam Cynnydd 3
Themáu y flwyddyn academaidd 2023-24:
Tymor yr Hydref 1 - Arwyr a Dihirod;
Tymor yr Hydref 2 - Ydw i’n foesegol?
Tymor y Gwanwyn - Ffasiwn
Tymor yr Haf - Teithio
Gwybodaeth Gyffredinol:
Ymarfer Corff: Rydym yn cynnal dau sesiwn addysg gorfforol bob wythnos (Dydd Llun a Dydd Mercher). Mae’n rhaid gwisgo dillad ymarfer
corff yr ysgol, sef:
•
siorts (haf yn unig) / tracwisg
•
crys-T coch/melyn/gwyrdd (yn dibynnu ar y tŷ y mae eich plentyn ynddo) gyda logo yr ysgol
•
treinyrs
Ffrwythau: Rydym yn dilyn polisi bwyta’n iach. Rydyn ni’n annog pob disgybl i ddod â ffrwythau a byrbrydau iach ar gyfer amser egwyl yn
ogystal â'u bocsys bwyd.
Dyma rhai o’n hoff ddolennau ni:
S4C Stwnsh: S4C Stwnsh
CBBC Newsround: BBC Newsround
BBC Radio Ysgol: BBC School Radio
Darllen Co: Darllen Co [mae angen i’r disgybl logio mewn]
Topmarks: Top Marks Cam Cynnydd 3
IXL: IXL Maths and English
Gwyddoniaeth i Blant: Science Kids
BBC Bitesize: BBC Bitesize KS2
Gwaith Cartref: Primary Homework Help
Celf: Will Sliney, Illustrator
Ysgol
Gymraeg Llundain
‘A fynn, a fedr’
Seesaw
Mae Seesaw yn blatfform profiad dysgu y mae 1.4 miliwn o addysgwyr, disgyblion a theuluoedd yn
y Deyrnas Unedig yn ymddiried ynddo ac yn ei garu. Mae Seesaw yn cynnig cyfres o offerynau
hyfforddi, adnoddau addysgu, offer ymgysylltu a theuluoedd a chwricwla i athrawon gyflwyno
addysgu llawen, cynhwysol.
Trwy wersi rhyngweithiol, portffolios digidol a nodweddion cyfathrebu dwy ffordd, mae Seesaw yn
cadw pawb yn y ddolen ddysgu trwy ddarparu gwelededd parhaus i brofiad dysgu’r disgybl.
Yn Ysgol Gymraeg Llundain, bydden ni’n parhau i ddatblygu defnydd o’r platfform Seesaw fel ffenestr i rieni gymryd mwy o ran yn nhaith
ddysgu eu plentyn: gall yr athro dosbarth rannu ffotograffau, gweithgareddau, rhestrau sillafu, tasgau gwaith cartref ac ati trwy’r platfform
yma ac mae Seesaw hefyd yn galluogi’r plentyn i rhannu eu cynnwys eu hunain gyda’u hathro neu ddosbarth, sy’n gwella’r profiad addysgol
a chymhwysedd digidol.
Tiwtorialau Fideo
Seesaw i deuluoedd: Seesaw: cyflwyniad i deuluoedd
Seesaw i ddisgyblion: Seesaw: cyflwyniad i ddisgyblion
Ysgol Gymraeg Llundain © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
Cyfeiriad
Ysgol Gymraeg Llundain
Canolfan Gymunedol Hanwell
Westcott Crescent
Hanwell
Llundain
W7 1PD
Gwybodaeth
Pennaeth: Ms Julie K Watkins
B.A.Hons, PGCE, M.Ed Cantab
Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479