020 8575 0237
Gwybodaeth Cyffredinol
Trefn y Dydd
Oriau’r Ysgol
Sesiwn y bore: 9.00 y.b. – 12:00 y.p. (Cam Cynnydd 1) Meithrin a Derbyn
9.00 y.b. – 12:10 y.p. (Cam Cynnydd 2 a 3) Blynyddoedd 1-6
Sesiwn y Prynhawn: 1:10 y.p. – 3:30 y.p. (Cam Cynnydd 1, 2 a 3)
Mae dechreuad graddol i’r bore o 8.40 y.b.
Clybiau’r Ysgol
Mae gennym glybiau amrywiol a diddorol a byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i ddiddordebau’r plant. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig
clybiau ar y dyddiau canlynol:
•
Dydd Llun i Ddydd Iau tan 5yp
Cysylltwch â swyddfa'r ysgol am ragor o wybodaeth am brisiau ac ati.
Rydym hefyd yn cynnig gofal cyn ysgol o 8yb. Nid ydym yn darparu brecwast ond mae croeso i blant ddod â brecwast gyda nhw i’w fwyta
yn yr ysgol.
Gofal Cofleidiol
Rydyn ni’n cynnig darpariaeth gofal cofleidiol cyn ac ar ôl ysgol i’n disgyblion ni.
Dyma’r wybodaeth gyfoes:
•
Cyn-ysgol – Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau a Dydd Gwener o 8.00yb tan 8.40yb.
•
Ar ôl ysgol – Dydd Llun a Dydd Iau o 3.30yp tan 5.00yp
•
Dydd Mawrth – Clwb yr Urdd, 3.30yp tan 5.00yp
Cysylltwch â Swyddfa’r Ysgol am ragor o wybodaeth, os gwelwch yn dda: info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Gwisg Ysgol
Gallech chi archebu gwisg ysgol ar wefan Price a Buckland: pbuniform-online.co.uk/londonwelshschool
Gwisg y Gaeaf
•
Crys polo coch gyda logo yr ysgol
•
Siwmper/Cardigan gwyrdd yr ysgol gyda logo yr ysgol
•
Trowsus llwyd
•
Sanau duon
•
Esgidiau duon (dim treinyrs)
neu
•
Sgert werdd neu binaffor
•
Teits gwyrddion
•
Esgidiau duon (dim treinyrs)
Gall disgyblion wisgo crys gwyn a thei yr ysgol hefyd.
Gwisg yr Haf
•
Crys polo coch gyda logo yr ysgol
•
Siwmper ysgol gwyrdd
•
Trowsus llwyd / trowsus byr
•
Sanau duon
•
Esgidiau duon (dim treinyrs)
neu
•
Ffrog haf defnydd siec gwyrdd a gwyn
•
Cardigan gwyrdd gyda logo yr ysgol
•
Sanau gwynion
•
Esgidiau duon (dim treinyrs)
Yn garedig, rydyn ni’n gofyn i Rieni/Gwarcheidweid labelu pob eitem o ddillad gyda enw eich plentyn.
Dillad Ymarfer Corff
•
Siorts (haf yn unig) / tracwisg
•
Crys-T coch/melyn/gwyrdd gyda logo yr ysgol
•
Treinyrs
Gemwaith
Am resymau Iechyd a Diogelwch ac oherwydd ei fod yn anaddas gyda gwisg ysgol, ni chaniateir disgyblion i wisgo gemwaith i’r ysgol.
Dim farnais ewinedd i gael ei wisgo chwaith.
Gwallt
Dylai gwallt gael ei gadw i ffwrdd o’r wyneb a’r llygaid ac os yw’n hir, dylai’r gwallt gael ei glymu yn ôl.
Os oes angen gwisg ysgol newydd, mae’n bosib ei archebu ar-lein ar wefan Price a Buckland: pbuniformonline.co.uk/londonwelshschool
Cysylltwch á’r ysgol am eitemau ‘bron yn newydd’.
Cinio Ysgol
Ni ddarperir cinio gan yr ysgol.
Rydyn ni’n annog bwyta’n iach ac yn gofyn i bob plentyn ddod â bocs bwyd iachus i’r ysgol pob dydd.
Rydyn ni’n argymell bod plant yn dod â diod o ddŵr gyda nhw i’r ysgol bob dydd yn ogystal â byrbrydau/ffrwythau ar gyfer amser egwyl, y
bore. Mae’r disgyblion yn Nosbarth 1 yn cael llaeth bob dydd cyn amser egwyl, y bore.
Gwybodaeth i Rieni: Bwyta’n Iach
http://www.nhs.uk/change4life/Pages/change-for-life.aspx
Absenoldeb
Os nad yw eich plentyn yn medru mynychu’r ysgol oherwydd salwch rhaid ffonio neu e-bostio’r ysgol erbyn 9yb y diwrnod hynny i roi
gwybod i ni. Os ydych yn ansicr, gwelwch gyngor GIG isod a dilynwch y canllawiau.
http://www.nhs.uk/Livewell/Yourchildatschool/Pages/Illness.aspx
Edrychwch hefyd at ein polisi Presenoldeb, Cofrestru a Phrydlondeb ar ein tudalen polisïau.
Teithiau
Rydyn ni’n cymryd mantais o fyw yn Llundain gyda’r holl gyfleoedd mae hyn yn ei gynnig.
Mae asesiad risg yn cael ei wneud ar gyfer pob trip ac mae rhaid i rieni lenwi mewn ffurflen caniatâd bob amser.
Helpu eich Plentyn
Yn aml, mae teuluoedd yn gofyn sut allwn ni helpu ein plentyn/plant yn y cartref. Isod, mae ychydig o awgrymiadau i hybu datblygiad
pellach eich plentyn.
•
Hybu cariad at ddysgu
•
Presenoldeb cyson
•
Cyflawni gwaith cartref yn gyson ac ar amser
•
Hybu annibyniaeth e.e. tacluso, gwisgo a dadwisgo, casglu adnoddau
•
Ymweld â’r llyfrgell leol
•
Hybu i ddal pensil yn gywir wrth liwio neu dynnu llun ac i ysgrifennu yn ôl polisi llawysgrifen yr ysgol
•
Darllen a thrafod straeon a llyfrau yn ddyddiol. Cofiwch nodi eu datblygiad trwy lenwi’r llyfryn cyswllt cartref-ysgol
•
Datblygu ei/u sgiliau llythrennedd a rhifedd wrth helpu gyda swyddi o gwmpas y tŷ e.e. gosod bwrdd – cyfri sawl llwy, trafod beth sydd
i’w weld yn y byd o gwmpas e.e. ar y bws, cerdded i’r ysgol – pa rif sydd ar y bws, sylwi ar liwiau, siapiau a chynnal sgwrs ar ein Testun
Trafod wythnosol.
Ysgol
Gymraeg Llundain
‘A fynn, a fedr’
Ysgol Gymraeg Llundain © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
Cyfeiriad
Ysgol Gymraeg Llundain
Canolfan Gymunedol Hanwell
Westcott Crescent
Hanwell
Llundain
W7 1PD
Gwybodaeth
Pennaeth: Ms Julie K Watkins
B.A.Hons, PGCE, M.Ed Cantab
Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479