020 8575 0237
Cwestiynau Cyffredin
Beth ydy manteision addysg ddwyieithog?
Drwy ddewis addysg ddwyieithog, byddwch yn rhoi sgil bywyd ychwanegol i'ch plentyn - y gallu i gyfathrebu mewn dwy iaith, ar lafar ac yn
ysgrifenedig.
•
mae rhuglder yn y Gymraeg yn ysbrydoli hyder a balchder ac yn ehangu dealltwriaeth ddiwylliannol a gwybodaeth hanesyddol disgyblion
am Gymru sy'n cryfhau'r teimlad o berthyn a hunaniaeth;
•
mae dwyieithrwydd yn gwella sgiliau llythrennedd a photensial plentyn ar gyfer cyflawniad academaidd; ar ben hynny, mae bod yn rhugl
mewn dwy iaith yn hwyl;
•
mae'n gwneud dysgu trydedd neu bedwaredd iaith gymaint yn haws!
Pam dewis Ysgol Gymraeg Llundain i'n plentyn?
Rydym yn ysgol gynradd fach gyda hanes hir a chryf o ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn Llundain.
•
Rydym yn dysgu mewn dosbarthiadau llai sy’n dod â llawer o fanteision.
•
Trwy gydweithio â llawer o’n partneriaid, hunanwerthuso ac esblygu gyda’r oes, rydym yn rhagweld y byddwn yn parhau i wneud hynny
am flynyddoedd lawer i ddod.
Beth mae rhieni a chyn-ddisgyblion yn dweud am Ysgol Gymraeg Llundain?
Edrychwch ar y tystebau hyn gan rieni a chyn-ddisgyblion: Tystebau
Faint yw'r ffioedd ysgol os gwelwch yn dda?
Gellir dod o hyd i'r ffi flynyddol bresennol yn adran Derbyniadau ar y wefan: Derbyniadau / Ffioedd
Ydych chi'n cynnig cymorth ariannol?
Polisi’r ysgol erioed fu peidio byth â gwrthod lle i unrhyw ddisgybl ar sail fforddiadwyedd. Siaradwch â ni os yw arian yn broblem ac fe
wnawn ein gorau i helpu.
Pa gyfleusterau sydd ar gael i’r ysgol?
Gan ein bod wedi'u lleoli'n ddiogel yng Nghanolfan Gymunedol hanesyddol Hanwell, mae gennym fynediad i ystafelloedd dosbarth, neuadd
chwaraeon, maes chwarae, parth gerddoriaeth a'r caeau lleol.
Beth ydy ‘naws’ amgylchedd yr ysgol?
Mae Ysgol Gymraeg Llundain wedi’i disgrifio fel ‘ysgol bentref gyda holl fanteision dinas.’ Yng Nghamau Cynnydd 1, 2 a 3, mae gan y
dosbarthiadau oedran cymysg ‘deimlad teuluol’ gyda llawer o gyfeillgarwch gydol oes yn cael ei ffurfio. Mae teuluoedd yn gefnogol i’r ysgol
ac yn bresennol yn y digwyddiadau blynyddol megis Halibalŵ, dathliad Dydd Gŵyl Dewi Sant yng nghapel San Steffan a Llangrannog. Mae
hyn yn creu ymdeimlad o berthyn o fewn cymuned ddiogel, ragweladwy, glos.
Oes grŵp babanod a phlant bach?
Miri Mawr Llundain yw ein grŵp babanod a phlant bach sy'n cwrdd bob bore Llun rhwng 10.00am a 12.00pm yn ystod y tymor. Sefydlwyd
Miri Mawr Llundain i roi cyfle i rieni, eu babanod a'u plant bychain gwrdd a chael hwyl drwy gyfrwng y Gymraeg yn Llundain. Gweler y linc:
Miri Mawr, grŵp babanod a phlant bach
Mae gan Ysgol Gymraeg Llundain gysylltiadau hefyd â meithrinfa Dreigiau Bach yn Clapham a Leytonstone: Dreigiau Bach, grŵp babanod a
phlant bach a gyda'r Mudiad Meithrin: Mudiad Meithrin
Ydych chi'n darparu gofal cofleidiol?
Rydym yn cynnig darpariaeth gofal cofleidiol cyn ac ar ôl ysgol:
a) Cyn ysgol – Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau a Dydd Gwener rhwng 8.00yb ac 8.40yb. Nid ydym yn darparu brecwast,
ond mae croeso i ddisgyblion ddod â'u bwyd eu hunain i fwyta.
b) Ar ôl ysgol – dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau o 3.30yp tan 5.00yp.
c) Dydd Iau – Clwb yr Urdd, 3.30yp tan 5.00yp.
Cysylltwch â swyddfa'r ysgol am fwy o wybodaeth neu os oes angen diwrnodau ychwanegol: info@ysgolgymraegllundain.co.uk Rydym yn
gwneud ein gorau i ddiwallu anghenion rhieni.
Sut mae’r plant yn cael eu dysgu yn yr Ysgol Gynradd?
Addysgir ein disgyblion mewn cymuned ofalgar, lle caiff unigoliaeth ei werthfawrogi a lle caiff chwilfrydedd deallusol ei feithrin a'i annog.
Mae maint ein dosbarthiadau'n fach ac mae athrawon yn gallu darganfod ac annog doniau plant tra ar yr un pryd yn ymestyn gallu a
chefnogi anghenion disgyblion unigol yn unol â hynny.
Yn Ysgol Gymraeg Llundain rydym yn addysgu mewn dosbarthiadau oedran cymysg ar draws y camau cynnydd a amlinellir yn y Cwricwlwm
i Gymru fel a ganlyn -
Cam Cynnydd 1 = disgyblion meithrin a derbyn;
Cam Cynnydd 2 = blynyddoedd 1, 2 a 3;
Cam Cynnydd 3 = blynyddoedd 4, 5 a 6.
Yng Nghamau Cynnydd 1 a 2, addysgir disgyblion yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg i adeiladu sylfaen iaith gadarn. Yng Ngham Cynnydd 3,
mae cydbwysedd mwy cyfartal o'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu haddysgu i sicrhau bod disgyblion yn barod ar gyfer pontio i'r ysgol
uwchradd. Ysgol Gynradd
Ydych chi'n darparu cinio ysgol?
Ni ddarperir cinio yn yr ysgol. Rydyn ni’n annog bwyta’n iach ac yn gofyn i bob plentyn ddod â bocs bwyd iachus i’r ysgol bob dydd. Rydyn
ni’n argymell bod y plant yn dod â diod o ddŵr gyda nhw i’r ysgol bob dydd a byrbryd/ffrwythau iach ar gyfer egwyl y bore. Mae disgyblion
Dosbarth 1 yn cael llaeth yn y bore bob dydd cyn amser egwyl.
Ble gallwn ni brynu’r wisg ysgol?
Gellir prynu gwisg ysgol o siop dillad ysgol Price a Buckland neu oddi ar eu gwefan - Siop gwisg ysgol Price a Buckland.
Beth sy’n gyffrous am y Cwricwlwm?
Mae'r Ysgol Gynradd yn cynnig ystod eang o weithgareddau academaidd a chydgwricwlaidd wedi'u fframio yng nghyd-destun y 6 Maes
Dysgu o fewn Cwricwlwm Cymru. Mae ein dull cyfannol wedi'i gynllunio i annog ein plant i gael awch am oes ac i fwynhau dysgu gydol oes.
Cwricwlwm
Pa weithgareddau neu glybiau allgyrsiol sydd ar gael?
Rydym yn cynnal amrywiaeth o glybiau diddorol a phleserus ac yn ceisio ein gorau i ymateb i ddiddordebau ein plant yn dibynnu ar
gryfderau staff. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig clybiau ar ôl ysgol o Ddydd Llun i Ddydd Iau tan 5pm. Ar y foment, rydym yn cynnig Ffrangeg,
Coginio, Clwb Hwyl Testunol, Clwb yr Urdd, Celf/Crefft. Mae gwersi canu preifat a phiano hefyd ar gael.
Cysylltwch â swyddfa'r ysgol i gael rhagor o wybodaeth am gostau ac ati.
Pa gyfleoedd cyfoethogi y mae’r ysgol yn eu darparu?
I ategu addysgu yn y ddosbarth, mae ein disgyblion yn elwa'n fawr o weithgareddau cyfoethogi, gweithdai a theithiau sy'n ysbrydoli plant
ymhellach ac yn dod â dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn fyw. Er enghraifft, rydym yn gwahodd M-Sparc yn flynyddol o Brifysgol Bangor i
gynnwys y plant mewn gweithdai gwyddoniaeth, technoleg neu fenter; mae teithiau o amgylch Llundain sy'n cyd-fynd â dysgu thematig yn
boblogaidd fel Eglwys Gadeiriol San Paul ar gyfer Addysg Grefyddol a’r thema 'Dyluniadau Mawr', Tân Cofeb Llundain a'r Orsaf Dân Ealing ar
gyfer thema Tân Llundain. Am fwy o enghreifftiau o 2023-24, cliciwch y ddolen a sgroliwch i waelod y dudalen: Cyfoethogi
Pa ddarpariaeth cymorth dysgu sydd ar gael i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol?
Yn Ysgol Gymraeg Llundain, rydym yn ymfalchïo yn ein dull rhagweithiol o gydnabod anghenion ychwanegol disgyblion yn gynnar. Mae ein
tîm o staff gofalgar yn gweithio ochr yn ochr â'n harbenigwr AAA profiadol i sicrhau darpariaeth bwrpasol ar gyfer pob math o anghenion
ychwanegol. Rydym yn defnyddio ystod o ymyraethau ac rydym yn gweithio'n agos gyda rhieni ac asiantaethau allanol mewn ffordd
gadarnhaol er lles y disgyblion. Gallwn hefyd gynorthwyo gyda'r broses o asesu a gwneud cais am Gynlluniau Gofal Iechyd Addysgol. A.A.A.
Beth allwch chi ei ddweud wrthyf am ddatblygiad medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol?
Mae’r tri sgil craidd pwysig hyn yn rhedeg trwy galon y cwricwlwm addysgu a dysgu ac mae cynnydd disgyblion a’u cymhwysiad ymarferol
o’r medrau hyn yn cael ei olrhain dros y camau cynnydd wrth iddynt ddatblygu’r medrau hyn trwy themâu trawsgwricwlaidd.
Faint o amser a roddir i wersi addysg gorfforol?
Mae disgyblion yn cael 2.5 awr o addysg gorfforol bob wythnos. Mae hyn yn cynnwys amser yn y neuadd chwaraeon a hefyd yn yr awyr
agored. Mae athrawon yn dilyn cynllun gwaith 'Get Set for PE.’
Addysg Grefyddol: Mae disgyblion yn cael awr o wersi Addysg Grefyddol yr wythnos lle maen nhw’n dysgu am bob crefydd ac yn cael cyfle
i ymweld â gwahanol adeiladau crefyddol yn yr ardal leol i'w helpu i ddeall natur aml-ddiwylliannol y ddinas y maent yn byw ynddi. Yn
ogystal, mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf â'r capeli Cymraeg a gwahoddir disgyblion yn aml i gymryd rhan mewn cyngherddau neu
ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r capeli Cymraeg megis Ras y Capeli a chyngerdd haf Côr Cymry Llundain.
Polisi Gwaith Cartref: Gosodir gwaith cartref bob wythnos. Bydd disgyblion Cam Cynnydd 2 yn gwneud Mathemateg ac Iaith bob yn ail
wythnos; bydd disgyblion Cam Cynnydd 3 yn cael gwaith cartref yn y ddau bwnc bob wythnos. Mae athrawon yn marcio’r gwaith yn
rheolaidd ac yn rhoi adborth i ddisgyblion a rhieni. Newidir llyfrau darllen yn aml bob wythnos ac anogir disgyblion i ddod yn ddarllenwyr
annibynnol brwd. Mae ein hysgol hefyd yn cydnabod pwysigrwydd amser teuluol a hefyd yn parchu'r angen am amser segur gartref ar ôl
diwrnod ysgol prysur.
Sut ydych chi'n mesur cynnydd a chyflawniadau unigol?
Mae plant yn sefyll profion NFER yn dymhorol. Rydym yn cofnodi data oedran sillafu ac oedran darllen ar ddechrau ac ar ddiwedd y
flwyddyn. Mae athrawon yn marcio gwaith dosbarth a gwaith cartref y disgyblion ac yn rhoi adborth i’r plant a’u rhieni gyda thargedau. Mae
cynnydd mewn sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn cael ei casglu dros y camau cynnydd o’r gwaith thema
trawscwricwlaidd. dymhorol.
Rydym yn gwobrwyo cyflawniad, ymdrech, ymddygiad da a siarad Cymraeg yn y ddosbarth. Rydym yn cydnabod llwyddiannau’r holl
ddisgyblion o'r tu fewn a thu allan i'r ysgol yn y gwasanaeth wythnosol.
Beth allwch chi ddweud wrthyf am weithdrefnau diogelu plant yn yr ysgol? Mae ein holl staff wedi’u gwirio gan y Wasanaeth Datgelu a
Gwahardd [DBS] a maent wedi derbyn hyfforddiant diogelu plant [DSL]. Mae gan yr Arweinwyr a'r Dirprwyon Diogelu Dynodedig
dystysgrifau DSL Lefel 3; mae'n ofynnol i bob aelod arall o staff a llywodraethwyr fod wedi gwneud cwrs Lefel 1 DSL. Mae ein Polisi Diogelu
yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol a gellir ei weld ar y wefan yn yr adran Dogfennau: Polisiau
Ble gallaf ddod o hyd i Bolisi Ymddygiad yr Ysgol?
Gallwch weld ein polisïau Ymddygiad, Cwricwlwm a Diogelu ar ein gwefan yn yr adran 'Popeth Statudol': Popeth Statudol
A all rhieni gymryd rhan ym mywyd yr ysgol? Mae'r Gymdeithas Rhieni a Ffrindiau [CRhaFf] yn trefnu gweithgareddau codi arian i’r ysgol ac
yn cynnig cyfle i bawb ddod at ei gilydd yn gymdeithasol ac i greu cymuned gefnogol. Gall y digwyddiadau hyn fod yn llawer o hwyl ac
maent yn ffordd i rieni fod yn rhan o gymuned yr ysgol. Enghreifftiau o'n digwyddiadau yw: Carnifal Hanwell, Goleuo'r Lon, Diwrnodau
Agored, barbeciw blynyddol a llawer mwy. Estynnir croeso cynnes i rieni newydd. Gofynnwch i'r ysgol am fanylion.
Pa gysylltiadau sydd gan yr ysgol gyda'r gymuned?
Mae gan yr ysgol gysylltiadau sefydledig gyda'r gymuned leol yn Hanwell ac Ealing, y Capeli Cymraeg, Cymuned a chorau Cymraeg Llundain,
yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Menter Iaith, Mudiad Meithrin a grwpiau eraill yng Nghymru. Mae'r ysgol hefyd yn cydweithio ag
ysgolion partner, busnesau a Llywodraeth Cymru.
Ga’i ymweld â'r ysgol ar Ddiwrnod Agored? Cewch, wrth gwrs! Rydym yn trefnu Noson Agored bob tymor [cadwch lygad ar adran
NEWYDDION y wefan] ond mae croeso i chi ymweld â'r ysgol fel darpar riant unrhywbryd drwy e-bostio info@ysgolgymraegllundain.co.uk
neu ffonio'r swyddfa ar 020 8575 0237 i drefnu taith ar adeg gyfleus i bawb.
Pa mor hawdd ydy disgyblion yn trosglwyddo o ysgol gynradd fechan i ysgol uwchradd fwy ym Mlwyddyn 7? Mae carfan Blwyddyn 6 yn
pontio’n llwyddiannus i flwyddyn 7 i mewn i’w ysgolion dewisiedig.. Fel ysgol sy’n bwydo plant ymlaen i’w cam nesaf, mae Ysgol Gymraeg
Llundain yn gwneud ymdrech dda i greu perthynas ag ysgolion uwchradd lleol ac yn annog y disgyblion yn frwd i fynychu diwrnodau pontio
Blwyddyn 6-7 cyn iddynt ddechrau er mwyn hwyluso’r broses.
Pa ysgolion ydy disgyblion yn mynychu ar ôl Blwyddyn 6? Mae rhai o'n disgyblion yn symud ymlaen i ysgolion uwchradd lleol yn Llundain;
mae teuluoedd eraill yn symud yn ôl i Gymru lle gall y disgyblion barhau gydag addysg Gymraeg.
Hoffwn i gychwyn fy mhlentyn yn yr ysgol. Ble gallaf ddod o hyd i'r ffurflen Derbyniadau os gwelwch yn dda?
Mae'r Ffurflen Derbyniadau ar y safle we yn yr adran ‘Ymunwch â Ni’ yma: Ffurflen Derbyniadau
Ysgol
Gymraeg Llundain
‘A fynn, a fedr’
Ysgol Gymraeg Llundain © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
Cyfeiriad
Ysgol Gymraeg Llundain
Canolfan Gymunedol Hanwell
Westcott Crescent
Hanwell
Llundain
W7 1PD
Gwybodaeth
Pennaeth: Ms Julie K Watkins
B.A.Hons, PGCE, M.Ed Cantab
Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479