020 8575 0237

Ein Hysgol

Addysgeg

Ar galon ein cwricwlwm yw’r pedwar diben a’r nod i gefnogi disgyblion i ddod: yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a'r byd unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas Rydym hefyd yn credu y dylai ein cwricwlwm fod yn briodol i gyfnod dysgu plant yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar y canlyniadau sy’n gysylltiedig ag oedran sydd i’w cyflawni. Felly, yn Ysgol Gymraeg Llundain, rydyn ni’n dysgu mewn dosbarthiadau oedran cymysg a rydym yn gwahaniaethu gwaith yn ôl lefel y plentyn unigol. Mae hyn yn gyson ag addysgeg ac argymhellion yr Athro Graham Donaldson, tad Cwricwlwm i Gymru, 2022.

Meithrin a Derbyn

O fewn fframwaith Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar, mae pedair egwyddor: Plentyn Unigryw - Mae pob plentyn yn medru dysgu o'i g/enedigaeth sy’n medru bod yn wydn, yn alluog, yn hyderus ac yn hunan-sicr. Perthnasoedd Cadarnhaol - Mae plant yn dysgu bod yn gryf ac yn annibynnol ar sail perthnasoedd gofalgar a diogel gyda rhiant/rhieni a staff. Amgylchedd sy’n gallugoi - Mae'r amgylchedd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ac ymestyn datblygiad a dysgu plant. Dysgu a Datblygu - Mae plant yn dysgu ac yn datblygu mewn gwahanol ffyrdd ac ar wahanol gyfraddau ac mae pob maes dysgu a datblygiad yr un mor bwysig ac yn rhyng-gysylltiedig. Yn Ysgol Gymraeg Llundain, mae'r fframwaith Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar yn darparu ffenest i mewn i'n rhaglen dysgu meithrin a derbyn: https://assets.publishing.service.gov.uk/media/65aa5e42ed27ca001327b2c7/EYFS_statutory_framework_for_group_and_school_based_p roviders.pdf Mae ein hathrawon wrth eu bodd yn chwarae, archwilio, addysgu a chael hwyl! Gwybodaeth Gyffredinol Addysg Gorfforol: Rydym yn cynnal dau sesiwn addysg gorfforol bob wythnos (dydd Llun a dydd Mercher). Bydd angen i'ch plentyn wisgo'n addas mewn crys-T, siorts tywyll neu joggers a threinyrs. Llaeth a Ffrwythau: Rydym yn darparu gwydraid o laeth bob dydd a hefyd yn gofyn i chi roi darn o ffrwythau a byrbryd iach i'ch plentyn ar gyfer dau amser egwyl ynghyd â'u bocs bwyd cinio. Mae ein hysgol yn dilyn polisi bwyta'n iach. I ddal i fyny â'r hyn sy'n digwydd yng Ngham Cynnydd 1, gallwch ein dilyn ar Twitter / X yn: https://x.com/ygllundain?s=21 Ysgol Gynradd Mae’r Ysgol Gynradd yn cynnig ystod eang o weithgareddau academaidd a chyd-gwricwlaidd wedi’u fframio yng nghyd-destun y Meysydd Dysgu o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Addysgir ein disgyblion mewn cymuned ofalgar iawn, lle mae unigolaeth yn cael ei werthfawrogi a chwilfrydedd deallusol yn cael ei feithrin a’i annog. Mae ein dull cyfannol wedi’i gynllunio i annog ein plant i gael awch am oes ac i fwynhau dysgu gydol oes. Mae ein staff brwdfrydig yn y Cynradd yn gweithio’n galed iawn i gefnogi anghenion pob plentyn a’u helpu i gyrraedd eu llawn botensial. Rydyn yn hynod o falch o’n safonau a’n disgwyliadau uchel. Mae’r staff yn gweithio’n ddiwyd i baratoi gwersi a phrofiadau cyfoethogi ar gyfer ein disgyblion ac i sicrhau bod disgyblion yn cael eu hymgysylltu a’u herio er mwyn gwneud y cynnydd gofynnol i gyflawni eu targedau cyrhaeddiad.

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Mae 6 Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Mathemateg a Rhifedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg Y Celfyddydau Mynegiannol Iechyd a Lles Y Dyniaethau Ble mae’r pynciau traddodiadol? Cynhelir gwersi iaith (Cymraeg a Saesneg), Mathemateg, ABCh, Ymarfer Corff, Drama ac Addysg Grefyddol. Rydym yn ffocysu ar y Meysydd Dysgu eraill trwy themau ysgol gyfan trawsgwricwlaidd. Mae’r gwersi i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, heblaw gwersi Saesneg, Mathemateg, Iechyd a Lles. Yn Cam Cynnydd 2, Cymraeg ydy prif ffocws gwersi Iaith, wedyn Saesneg. Yn Cam Cynnydd 3, mae 50% o’r gwersi Iaith yn y Gymraeg a 50% yn Saesneg. Hefyd dysgir Ffrangeg. Sgiliau trawsgwricwlaidd Mae’r 3 sgil sef Rhifedd, Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol yn gwehyddu drwy bopeth. Gwersi canu ac offerynnol - Cynigir gwersi canu a gwersi offerynnol ychwanegol am bris rhesymol. Anghenion Addysgol Arbennig Yn Ysgol Gymraeg Llundain, rydym yn ymfalchïo yn ein dull rhagweithiol o adnabod anghenion ychwanegol disgyblion yn gynnar. Mae ein tîm o staff gofalgar yn gweithio ochr yn ochr â’n harbenigwr AAA profiadol i sicrhau darpariaeth bwrpasol ar gyfer pob math o anghenion ychwanegol. Defnyddiwn ystod o ymyriaethau a gweithiwn yn agos gyda rhieni ac asiantaethau allanol mewn modd cadarnhaol er lles y disgyblion. Gallwn hefyd gynorthwyo gyda'r broses o asesu a gwneud cais am Gynllun Gofal Iechyd Addysgol. Gwybodaeth i Rieni: A quick guide for parents and carers to the Education Health Care Plan (EHCP) process Gwybodaeth Bellach: 1. Strategaeth Ealing ar gyfer anghenion addysgol arbennig, anableddau a chynhwysiad 2023-27 / Ealing Grid for Learning 2. Gwasanaethau Ealing ar gyfer Plant gyda Anghenion Arbennig [ESCAN] Anghenion Meddygol Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion prif ffrwd y dyletswyddau cyfreithiol a ganlyn o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Rhaid iddynt: gydweithredu â’r awdurdod lleol wrth ddatblygu’r cynnig lleol; sicrhau bod yr ysgol yn cynhyrchu ac yn cyhoeddi ei Hadroddiad Gwybodaeth AAA Ysgol ar-lein yn unol â adran 69 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014; sicrhau bod gan yr ysgol drefniadau ar waith i gefnogi plant â chyflyrau meddygol (adran 100 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014). https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/344424/Special_educational_needs_and_disabilites_guid e_for_parents_and_carers.pdf

Gweithgareddau Cyfoethogi

Er mor ardderchog yw dysgu ac addysgu mewn gwersi, rydym yn cynnig llawer o weithgareddau cyfoethogi i ysbrydoli’r dysgyblion ymhellach. Trwy gymhwyso eu dysgu ffurfiol i brofiadau bywyd go iawn, daw'r dysgu yn fyw. Fel y nodwyd mewn hen ddihareb Tsieineaidd, ‘'Dywedwch wrthyf ac fe anghofiaf, dysga fi ac efallai y cofiaf, cynhwyswch fi a byddaf yn dysgu ac yn deall.' Y gweithgareddau cyfoethogi mae ein disgyblion wedi’u mwynhau yn 2023-24 ydy: Gweithdy gwyddoniaeth a thechnoleg gyda M-Sparc Menter greadigol gyda The Bumbles of Honeywood Cystadleuaeth Coginio gyda CogUrdd a’i feirniadu gan gogydd gweithredol Fullers Ymweliad i’r Amgueddfa Rhyfel Imperialaidd Taith i'r Sinema (Wonka) i ddod â'r llyfr Charlie and the Chocolate Factory yn fyw Sioe Nadolig [Santa ar Streic] Gweithdy serameg gyda Catrin Howell Gwasanaeth Dydd Gŵyl Dewi Sant yng nghapel San Steffan, Llundain Sialens chwaraeon gyda Tîm Athletau Cymru Eisteddfod Tu Allan i Gymru Hybu’r iaith Gymraeg trwy fenter a busnes gyda Eifion Rogers a Nic Clement Gweithdy celf Gweithdy ffasiwn a ffotograffiaeth gyda Charlotte James Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda James Murray, Aelod Seneddol Taith i’r Amgueddfa Trafnidiaeth Llundain Ymweliad dinasyddiaeth i Dŷ'r Cyffredin Cyngerdd gyda Chôr Cymry Llundain Taith breswyl i Wersyll yr Urdd, Llangrannog
Ysgol Gymraeg Llundain ‘A fynn, a fedr’ Addysg Gynradd Gymraeg Ddwyieithog yn Llundain
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mathemateg a Rhifedd
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Y Celfyddydau Mynegiannol
Iechyd a Lles
Y Dyniaethau
Cymraeg Saesneg Ieithoedd rhyngwladol (Ffrangeg) Llenyddiaeth Llythrennedd a chyfathrebu [ar draws}
Mathemateg Rhifedd [ar draws]
Gwyddoniaeth Dylunio a thechnoleg Technoleg gwybodaeth Sgiliau digidol [ar draws]
Celf Cerddoraieth Dawns Drama Ffilm a’r Cyfryngau Digidol
Iechyd a datblygiad y corff Ymarfer corff Iechyd meddwl Lles emosiynol a chymdeithasol
Daearyddiaeth Hanes Crefydd Gwerthoedd a moeseg Astudiaethau busnes Astudiaethau cymdeithasol

Ysgol Gymraeg Llundain © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Cyfeiriad Ysgol Gymraeg Llundain Canolfan Gymunedol Hanwell Westcott Crescent Hanwell Llundain W7 1PD
Cysylltu Ffôn: 020 8575 0237 E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk Mewn argyfwng, neu pan fydd yr ysgol ar gau - E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Gwybodaeth Pennaeth: Ms Julie K Watkins B.A.Hons, PGCE, M.Ed Cantab Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479
 

Ein Hysgol

Addysgeg

Ar galon ein cwricwlwm yw’r pedwar diben a’r nod i gefnogi disgyblion i ddod: yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a'r byd unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas Rydym hefyd yn credu y dylai ein cwricwlwm fod yn briodol i gyfnod dysgu plant yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar y canlyniadau sy’n gysylltiedig ag oedran sydd i’w cyflawni. Felly, yn Ysgol Gymraeg Llundain, rydyn ni’n dysgu mewn dosbarthiadau oedran cymysg a rydym yn gwahaniaethu gwaith yn ôl lefel y plentyn unigol. Mae hyn yn gyson ag addysgeg ac argymhellion yr Athro Graham Donaldson, tad Cwricwlwm i Gymru, 2022.

Meithrin a Derbyn

O fewn fframwaith Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar, mae pedair egwyddor: Plentyn Unigryw - Mae pob plentyn yn medru dysgu o'i g/enedigaeth sy’n medru bod yn wydn, yn alluog, yn hyderus ac yn hunan-sicr. Perthnasoedd Cadarnhaol - Mae plant yn dysgu bod yn gryf ac yn annibynnol ar sail perthnasoedd gofalgar a diogel gyda rhiant/rhieni a staff. Amgylchedd sy’n gallugoi - Mae'r amgylchedd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ac ymestyn datblygiad a dysgu plant. Dysgu a Datblygu - Mae plant yn dysgu ac yn datblygu mewn gwahanol ffyrdd ac ar wahanol gyfraddau ac mae pob maes dysgu a datblygiad yr un mor bwysig ac yn rhyng-gysylltiedig. Yn Ysgol Gymraeg Llundain, mae'r fframwaith Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar yn darparu ffenest i mewn i'n rhaglen dysgu meithrin a derbyn: https://assets.publishing.service.gov.uk/media/65aa5e42ed 27ca001327b2c7/EYFS_statutory_framework_for_group_and _school_based_providers.pdf Mae ein hathrawon wrth eu bodd yn chwarae, archwilio, addysgu a chael hwyl! Gwybodaeth Gyffredinol Addysg Gorfforol: Rydym yn cynnal dau sesiwn addysg gorfforol bob wythnos (dydd Llun a dydd Mercher). Bydd angen i'ch plentyn wisgo'n addas mewn crys-T, siorts tywyll neu joggers a threinyrs. Llaeth a Ffrwythau: Rydym yn darparu gwydraid o laeth bob dydd a hefyd yn gofyn i chi roi darn o ffrwythau a byrbryd iach i'ch plentyn ar gyfer dau amser egwyl ynghyd â'u bocs bwyd cinio. Mae ein hysgol yn dilyn polisi bwyta'n iach. I ddal i fyny â'r hyn sy'n digwydd yng Ngham Cynnydd 1, gallwch ein dilyn ar Twitter / X yn: https://x.com/ygllundain?s=21 Ysgol Gynradd Mae’r Ysgol Gynradd yn cynnig ystod eang o weithgareddau academaidd a chyd-gwricwlaidd wedi’u fframio yng nghyd- destun y Meysydd Dysgu o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Addysgir ein disgyblion mewn cymuned ofalgar iawn, lle mae unigolaeth yn cael ei werthfawrogi a chwilfrydedd deallusol yn cael ei feithrin a’i annog. Mae ein dull cyfannol wedi’i gynllunio i annog ein plant i gael awch am oes ac i fwynhau dysgu gydol oes. Mae ein staff brwdfrydig yn y Cynradd yn gweithio’n galed iawn i gefnogi anghenion pob plentyn a’u helpu i gyrraedd eu llawn botensial. Rydyn yn hynod o falch o’n safonau a’n disgwyliadau uchel. Mae’r staff yn gweithio’n ddiwyd i baratoi gwersi a phrofiadau cyfoethogi ar gyfer ein disgyblion ac i sicrhau bod disgyblion yn cael eu hymgysylltu a’u herio er mwyn gwneud y cynnydd gofynnol i gyflawni eu targedau cyrhaeddiad.

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Mae 6 Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Mathemateg a Rhifedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg Y Celfyddydau Mynegiannol Iechyd a Lles Y Dyniaethau Ble mae’r pynciau traddodiadol? Cynhelir gwersi iaith (Cymraeg a Saesneg), Mathemateg, ABCh, Ymarfer Corff, Drama ac Addysg Grefyddol. Rydym yn ffocysu ar y Meysydd Dysgu eraill trwy themau ysgol gyfan trawsgwricwlaidd. Mae’r gwersi i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, heblaw gwersi Saesneg, Mathemateg, Iechyd a Lles. Yn Cam Cynnydd 2, Cymraeg ydy prif ffocws gwersi Iaith, wedyn Saesneg. Yn Cam Cynnydd 3, mae 50% o’r gwersi Iaith yn y Gymraeg a 50% yn Saesneg. Hefyd dysgir Ffrangeg. Sgiliau trawsgwricwlaidd Mae’r 3 sgil sef Rhifedd, Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol yn gwehyddu drwy bopeth. Gwersi canu ac offerynnol - Cynigir gwersi canu a gwersi offerynnol ychwanegol am bris rhesymol. Anghenion Addysgol Arbennig Yn Ysgol Gymraeg Llundain, rydym yn ymfalchïo yn ein dull rhagweithiol o adnabod anghenion ychwanegol disgyblion yn gynnar. Mae ein tîm o staff gofalgar yn gweithio ochr yn ochr â’n harbenigwr AAA profiadol i sicrhau darpariaeth bwrpasol ar gyfer pob math o anghenion ychwanegol. Defnyddiwn ystod o ymyriaethau a gweithiwn yn agos gyda rhieni ac asiantaethau allanol mewn modd cadarnhaol er lles y disgyblion. Gallwn hefyd gynorthwyo gyda'r broses o asesu a gwneud cais am Gynllun Gofal Iechyd Addysgol. Gwybodaeth i Rieni: A quick guide for parents and carers to the Education Health Care Plan (EHCP) process Gwybodaeth Bellach: 1. Strategaeth Ealing ar gyfer anghenion addysgol arbennig, anableddau a chynhwysiad 2023-27 / Ealing Grid for Learning 2. Gwasanaethau Ealing ar gyfer Plant gyda Anghenion Arbennig [ESCAN] Anghenion Meddygol Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion prif ffrwd y dyletswyddau cyfreithiol a ganlyn o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Rhaid iddynt: gydweithredu â’r awdurdod lleol wrth ddatblygu’r cynnig lleol; sicrhau bod yr ysgol yn cynhyrchu ac yn cyhoeddi ei Hadroddiad Gwybodaeth AAA Ysgol ar-lein yn unol â adran 69 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014; sicrhau bod gan yr ysgol drefniadau ar waith i gefnogi plant â chyflyrau meddygol (adran 100 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014). https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/a ttachment_data/file/344424/Special_educational_needs_an d_disabilites_guide_for_parents_and_carers.pdf

Gweithgareddau

Cyfoethogi

Er mor ardderchog yw dysgu ac addysgu mewn gwersi, rydym yn cynnig llawer o weithgareddau cyfoethogi i ysbrydoli’r dysgyblion ymhellach. Trwy gymhwyso eu dysgu ffurfiol i brofiadau bywyd go iawn, daw'r dysgu yn fyw. Fel y nodwyd mewn hen ddihareb Tsieineaidd, ‘'Dywedwch wrthyf ac fe anghofiaf, dysga fi ac efallai y cofiaf, cynhwyswch fi a byddaf yn dysgu ac yn deall.' Y gweithgareddau cyfoethogi mae ein disgyblion wedi’u mwynhau yn 2023-24 ydy: Gweithdy gwyddoniaeth a thechnoleg gyda M-Sparc Menter greadigol gyda The Bumbles of Honeywood Cystadleuaeth Coginio gyda CogUrdd a’i feirniadu gan gogydd gweithredol Fullers Ymweliad i’r Amgueddfa Rhyfel Imperialaidd Taith i'r Sinema (Wonka) i ddod â'r llyfr Charlie and the Chocolate Factory yn fyw Sioe Nadolig [Santa ar Streic] Gweithdy serameg gyda Catrin Howell Gwasanaeth Dydd Gŵyl Dewi Sant yng nghapel San Steffan, Llundain Sialens chwaraeon gyda Tîm Athletau Cymru Eisteddfod Tu Allan i Gymru Hybu’r iaith Gymraeg trwy fenter a busnes gyda Eifion Rogers a Nic Clement Gweithdy celf Gweithdy ffasiwn a ffotograffiaeth gyda Charlotte James Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda James Murray, Aelod Seneddol Taith i’r Amgueddfa Trafnidiaeth Llundain Ymweliad dinasyddiaeth i Dŷ'r Cyffredin Cyngerdd gyda Chôr Cymry Llundain Taith breswyl i Wersyll yr Urdd, Llangrannog
Ysgol Gymraeg Llundain ‘A fynn, a fedr’ Addysg Gynradd Gymraeg Ddwyieithog yn Llundain

020 8575 0237

Ysgol Gymraeg Llundain © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs