020 8575 0237

Miri Mawr

Grwp Babanod a Phlant Bach

Miri Mawr Llundain Grŵp babanod, plant bach a’u rhieni yw Miri Mawr Llundain sy’n cael ei gynnal mewn ystafell fawr yn Ysgol Gymraeg Llundain, Canolfan Gymunedol Hanwell, Ealing, Gorllewin Llundain, W7 1PD. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob bore Llun rhwng 10.00yb a 12.00yp yn ystod tymor yr ysgol. Sefydlwyd Miri Mawr Llundain i roi cyfle i rhieni, eu babanod a’u plant bach i gael cyfle i gwrdd a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg yn Llundain. Mae croeso i bawb yn Miri Mawr, p’un ai ydych yn siaradwr Cymraeg, yn ddysgwr Cymraeg neu’n rhywun sy’n ddi-Gymraeg ond sydd â diddordeb dysgu Cymraeg. Mewn lleoliad lliwgar a diogel, cynhelir pob math o weithgareddau diddorol ac amrywiol megis gemau, gwrando ar stori, gwaith crefft, canu a ioga ble mae’r plant, y babanod a’u rhieni yn cael llawer o hwyl. Anogir bawb i gyfathrebu yn y Gymraeg felly mae cyfle i ddysgu Cymraeg gyda’ch plentyn. Mae gan Miri Mawr Llundain berthynas gref gydag Ysgol Gymraeg Llundain ac mae llawer o’n plant yn mynd ymlaen i fod yn ddisgyblion yn yr ysgol. “Mae Miri Mawr mor gartrefol a hwyliog - mae fel bod yng Nghymru,” meddai un fam. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu neu angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Ysgol Gymraeg Llundain ‘A fynn, a fedr’ Addysg Gynradd Gymraeg Ddwyieithog yn Llundain

Ysgol Gymraeg Llundain © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Cyfeiriad Ysgol Gymraeg Llundain Canolfan Gymunedol Hanwell Westcott Crescent Hanwell Llundain W7 1PD
Cysylltu Ffôn: 020 8575 0237 E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk Mewn argyfwng, neu pan fydd yr ysgol ar gau - E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Gwybodaeth Pennaeth: Ms Julie K Watkins B.A.Hons, PGCE, M.Ed Cantab Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479
 

Miri Mawr

Grwp Babanod a Phlant

Bach

Miri Mawr Llundain Grŵp babanod, plant bach a’u rhieni yw Miri Mawr Llundain sy’n cael ei gynnal mewn ystafell fawr yn Ysgol Gymraeg Llundain, Canolfan Gymunedol Hanwell, Ealing, Gorllewin Llundain, W7 1PD. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob bore Llun rhwng 10.00yb a 12.00yp yn ystod tymor yr ysgol. Sefydlwyd Miri Mawr Llundain i roi cyfle i rhieni, eu babanod a’u plant bach i gael cyfle i gwrdd a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg yn Llundain. Mae croeso i bawb yn Miri Mawr, p’un ai ydych yn siaradwr Cymraeg, yn ddysgwr Cymraeg neu’n rhywun sy’n ddi- Gymraeg ond sydd â diddordeb dysgu Cymraeg. Mewn lleoliad lliwgar a diogel, cynhelir pob math o weithgareddau diddorol ac amrywiol megis gemau, gwrando ar stori, gwaith crefft, canu a ioga ble mae’r plant, y babanod a’u rhieni yn cael llawer o hwyl. Anogir bawb i gyfathrebu yn y Gymraeg felly mae cyfle i ddysgu Cymraeg gyda’ch plentyn. Mae gan Miri Mawr Llundain berthynas gref gydag Ysgol Gymraeg Llundain ac mae llawer o’n plant yn mynd ymlaen i fod yn ddisgyblion yn yr ysgol. “Mae Miri Mawr mor gartrefol a hwyliog - mae fel bod yng Nghymru,” meddai un fam. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu neu angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Ysgol Gymraeg Llundain ‘A fynn, a fedr’ Addysg Gynradd Gymraeg Ddwyieithog yn Llundain

020 8575 0237

Ysgol Gymraeg Llundain © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

Cyfeiriad Ysgol Gymraeg Llundain Canolfan Gymunedol Hanwell Westcott Crescent Hanwell Llundain W7 1PD
Cysylltu Ffôn: 020 8575 0237 E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk Mewn argyfwng, neu pan fydd yr ysgol ar gau - E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Gwybodaeth Pennaeth: Ms Julie K Watkins B.A.Hons, PGCE, M.Ed Cantab Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479
 