Ysgol Gymraeg Llundain © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
Meithrin a Derbyn
O fewn fframwaith Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar, mae pedair egwyddor:
•
Plentyn Unigryw - Mae pob plentyn yn medru dysgu o'i g/enedigaeth sy’n medru bod yn wydn, yn alluog, yn hyderus ac yn hunan-sicr.
•
Perthnasoedd Cadarnhaol - Mae plant yn dysgu bod yn gryf ac yn annibynnol ar sail perthnasoedd gofalgar a diogel gyda
rhiant/rhieni a staff.
•
Amgylchedd sy’n gallugoi - Mae'r amgylchedd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ac ymestyn datblygiad a dysgu plant.
•
Dysgu a Datblygu - Mae plant yn dysgu ac yn datblygu mewn gwahanol ffyrdd ac ar wahanol gyfraddau ac mae pob maes dysgu a
datblygiad yr un mor bwysig ac yn rhyng-gysylltiedig.
Yn Ysgol Gymraeg Llundain, mae'r fframwaith Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar yn darparu ffenest i mewn i'n rhaglen dysgu meithrin
a derbyn:
https://assets.publishing.service.gov.uk/media/65aa5e42ed27ca001327b2c7/EYFS_statutory_framework_for_group_and_school_base
d_providers.pdf
Mae ein hathrawon wrth eu bodd yn chwarae, archwilio, addysgu a chael hwyl!
Gwybodaeth Gyffredinol
•
Addysg Gorfforol: Rydym yn cynnal dau sesiwn addysg gorfforol bob wythnos (dydd Llun a dydd Mercher). Bydd angen i'ch plentyn
wisgo'n addas mewn crys-T, siorts tywyll neu joggers a threinyrs.
•
Llaeth a Ffrwythau: Rydym yn darparu gwydraid o laeth bob dydd a hefyd yn gofyn i chi roi darn o ffrwythau a byrbryd iach i'ch
plentyn ar gyfer dau amser egwyl ynghyd â'u bocs bwyd cinio. Mae ein hysgol yn dilyn polisi bwyta'n iach.
I ddal i fyny â'r hyn sy'n digwydd yng Ngham Cynnydd 1, gallwch ein dilyn ar Twitter / X yn: https://x.com/ygllundain?s=21
Ysgol
Gymraeg Llundain
‘A fynn, a fedr’
020 8575 0237
Cyfeiriad
Ysgol Gymraeg Llundain
Canolfan Gymunedol Hanwell
Westcott Crescent
Hanwell
Llundain
W7 1PD
Gwybodaeth
Pennaeth: Ms Julie K Watkins
B.A.Hons, PGCE, M.Ed Cantab
Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479