Ysgol Gymraeg Llundain © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Cenhadaeth yr ysgol Ein Pwrpas Pwrpas ein hysgol yw gwasanaethu ein cymuned trwy ddarparu amgylchedd cynhwysol a diogel lle rydym yn gweithio i alluogi ein plant i ddatblygu i fod yn ddysgwyr gydol oes hyderus ac yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol. Dilynwn Gwricwlwm i Gymru sy’n darparu cyfleoedd diddorol a heriol i ysbrydoli ein plant. Mae cariad at ddysgu yn cael ei feithrin trwy archwilio, darganfod ac ymchwilio i bynciau trawsgwricwlaidd. Mae Rhifedd, Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol wedi’u gwreiddio ym mhob profiad dysgu ac yn darparu sylfaen i blant gyrraedd eu potensial llawn, gan eu paratoi i ddod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol ac arweinwyr y dyfodol mewn byd sy’n newid yn barhaus. Ein Hamcanion Paratoi ein plant gyda'r sgiliau annibyniaeth, gwytnwch a'r gallu i ddatrys problemau fel y gallant lywio bywyd y tu hwnt i'r ysgol gynradd Cynnal amgylchedd diogel a hapus lle mae pob plentyn yn cael y cyfle i ddatblygu’n bersonol, yn gorfforol, yn gymdeithasol, yn academaidd ac yn ysbrydol Addysgu cwricwlwm creadigol, ysgogol, ystyrlon a pherthnasol gydag ystod eang o brofiadau dysgu i fodloni gwahanol anghenion plant unigol. Annog llawenydd ac angerdd am ddysgu o fewn pob plentyn. Creu partneriaeth gyda rhieni lle maent yn ymwneud yn weithredol ag addysg eu plentyn. Annog y plant i arbrofi, gwneud camgymeriadau a chael yr hyder i roi cynnig arall arni. Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i ddatblygu ei botensial/photensial. Ein Gwerthoedd 1. Rhagoriaeth: Rydym yn meithrin diwylliant o ragoriaeth ymhopeth a wnawn, gan annog ein disgyblion i osod safonau uchel iddynt eu hunain a chyflawni eu gorau glas. Rydym yn dathlu ymdrech, gwytnwch a mynd ar drywydd gwybodaeth. 2. Parch: Rydym yn hyrwyddo parch tuag at ein hunain, tuag at eraill a thuag at yr amgylchedd. Rydym yn croesawu amrywiaeth ac yn annog dealltwriaeth, caredigrwydd ac empathi. 3. Gonestrwydd: Rydym yn cynnal y safonau moesegol uchaf, gan bwysleisio gonestrwydd, tegwch a chyfrifoldeb personol. 4. Creadigrwydd: Rydym yn meithrin amgylchedd gefnogol sy'n annog datrys problemau mewn ffyrdd greadigol. Dathlwn ddoniau amrywiol ac anogwn ein disgyblion i fynegi eu hunain drwy gerddoriaeth a chelfyddyd. 5. Twf: Hyrwyddwn gariad at ddysgu a thwf personol parhaus. Rydym yn annog ein disgyblion i groesawu heriau a dysgu o’u camgymeriadau. 6. Y Gymuned: Rydym yn meithrin ymdeimlad o berthyn a chyfrifoldeb cymdeithasol gan feithrin perthnasoedd cadarnhaol rhwng ein disgyblion, staff a rhieni. Ein Gweledigaeth Ein gweledigaeth yw bod yn ysgol fyfyriol sy’n dathlu ei chryfderau ond sydd hefyd yn hunanwerthuso ac yn ymdrechu i wella er budd ein holl randdeiliaid a’r gymuned. Drwy wrando ar eraill ac ystyried barn ein rhanddeiliaid yn y broses o ddatblygu, byddwn yn parhau i gynnig amgylchedd diogel, gynhwysol a phwrpasol ar gyfer ein disgyblion a’n staff presennol a’r dyfodol. Rydym yn cydnabod bod y byd yn newid yn gyflym a thrwy ddysgu a datblygu, gallwn barhau i gaffael arbenigedd a chreu cyfleoedd pwrpasol sy’n datblygu a chyfoethogi profiad addysgol ein disgyblion. Mae gennym hanes hir a chadarn o ddarparu addysg Gymraeg ragorol i’n disgyblion yn Llundain ers 1958 a thrwy hunan-werthuso, cydweithio a thrwy symud gyda’r oes, rydym yn rhagweld y byddwn yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod.

020 8575 0237

Cyfeiriad Ysgol Gymraeg Llundain Canolfan Gymunedol Hanwell Westcott Crescent Hanwell Llundain W7 1PD
Cysylltu Ffôn: 020 8575 0237 E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk Mewn argyfwng, neu pan fydd yr ysgol ar gau - E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Gwybodaeth Pennaeth: Ms Julie K Watkins B.A.Hons, PGCE, M.Ed Cantab Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479
Ysgol Gymraeg Llundain  
WhatsApp

Ysgol Gymraeg Llundain

Ysgol Gymraeg Llundain © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

 
WhatsApp