Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ŵyl flynyddol, genedlaethol a gaiff ei chynnal yn ystod wythnos lawn gyntaf mis Awst. Mae’n cwmpasu’r celfyddydau, chwaraeon a llawer iawn mwy. Mae gan Ysgol Gymraeg Llundain bresenoldeb ar stondin ‘Cymru a’r Byd’ a Llywodraeth Cymrusy’n gyfle delfrydol i hyrwyddo'r ysgol.Mae’r Urdd yn fudiad cenedlaethol i blant ac ieuenctid ac yn darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau. Rydym yn treulio dyddiau olaf tymor yr haf yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.Mae Eisteddfod yr Urdd yn rhan gynhenid o ddiwylliant Cymru a hi yw’r ŵyl ddiwylliannol, gystadleuol fwyaf yn Ewrop. Yng Nghlwb yr Urdd, un o'n clybiau wythnosol ar ôl ysgol, mae’r disgyblion yn cael hwyl di-ben draw yn paratoi ar gyfer pob math o gystadleuthau a gweithgareddau megis canu, actio, gwaith celf a choginio. Cynhelir Eisteddfod ‘Tu Allan i Gymru' sef y rownd ragbrofol i'r cystadleuwyr i sicrhau lle yn y prif ddigwyddiad yng Nghymru.Dros y blynyddoedd, rydym wedi derbyn llawer o wobrau am e.e. ysgrifennu rhyddiaith, gwaith serameg, ysgrifennu sgriptiau a dylunio cymeriad cartŵn yn yn ogystal â’r cystadleuthau ar y llwyfan. Cawsom lwyddiant eithriadol yn 2019 drwy ddod yn ail yn y genedlaethol yn y Gân Actol. Edrychwch ar ein fideo ar YouTube.O flwyddyn i flwyddyn, rydym yn sylwi ar welliant amlwg yn sgiliau pob plentyn p'un ai ydynt yn perfformio, dylunio, coginio neu greu.Cefnogwn gryfderau'r plant a gweithiwn ar agweddau yr hoffent eu gwella trwy eu helpu i baratoi ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau gwahanol. Dyma rai o’r cystadleuthau y mae ein disgyblion wedi cymryd rhan ynddynt. Mae rhywbeth i bawb:●Canu unigol●Deuawd●Llefaru unigol●Cyfansoddi barddoniaeth●Ysgrifennu darn o ryddiaith●Dawnsio gwerin●Cyflwyno cân werin●Unawd offerynnol●Dylunio gwaith serameg ●Coginio●Dyluniad crys-T●Creu ffilm fer●Dylunio a chreu cymeriad cartŵn newydd●Gwaith Celf 2D●Dylunio 3D●Ysgrifennu adolygiad o ffilm●Cystadlaethau ffotograffig: du a gwyn + lliw.HalibalŵMae Halibalŵ yn ddathliad bywiog, blynyddol o bopeth Cymraeg i deuluoedd â phlant yma yn Llundain. Caiff ei gynnal yng Nghanolfan Cymry Llundain yn nhymor yr Hydref ac mae wedi dod yn sefydlog yng nghalendr Cymry Llundain gyda chefnogwyr o bob cwr o'r ddinas. Daw’r enwog, y neiniau a’r teidiau, teuluoedd estynedig, ffrindiau a chyfeillion i fwynhau’r achlysur cwbl unigryw hwn.Cafodd ei sefydlu mewn ymateb i'r alwad am ddigwyddiad cyn oed ysgol ar gyfer teuluoedd oedd eisiau magu eu plant yn siaradwyr Cymraeg yn Llundain. Mae Halibalŵ yn gyfle i fabanod a phlant chwarae, gwrando ar straeon, cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft, canu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â'r grwpiau chwarae Cymraeg Miri Mawr a Dreigiau Bach, rhydd Halibalŵ gyfle i rieni drefnu i gwrdd â’i gilydd ac adeiladu rhwydwaith o gefnogaeth i’w hymdrechion i fagu eu plant yn ddwyieithog neu'n amlieithog yn Llundain. Mae CRhaFf Ysgol Gymraeg Llundain bob amser yn rhedeg caffi llawn bwrlwm wedi'i lenwi i’r ymylon gyda nwyddau cartref ac o wybod pa mor heriol yw bod yn rhiant, mae CRhaFf yn darparu bocsys cinio am ddim i bob plentyn.Yn rhan o’r digwyddiad y mae ddiddanwr o S4C, gyda llawer o ddawnsio, canu a symud - ni all y plant (na'u rhieni!) beidio â chael eu diddanu. Mae castell bownsio, sioe bypedau, gweithdy drama broffesiynol ar gyfer y plant hŷn, ioga rhiant a babi a ffotograffydd i enwi ond ychydig. Mae Mudiad Meithrin Cymru yn cefnogi'r digwyddiad drwy anfon cynrychiolwyr o Aberystwyth sydd â llu o gyngor ynglŷn â magu plant yn ddwyieithog. Hefyd, mae Rygbi Cymry Llundain wedi dod â chacennau cri a Dewi’r Ddraig i'r digwyddiad gyda chynrychiolwyr sy’n medru esbonio sut y medrwch gymryd rhan yn y sîn rygbi! Y mae rhywbeth i bawb.Yn 2023, ymunodd Elin a Rhian o'r Mudiad Meithrin â Chriw Cyw o S4C. Mwynheuodd y plant hŷn gyflwyniad ryngweithiol yn seiliedig ar fywyd a dylanwad Beti Campbell.Dyma ein digwyddiad diwethaf … Gwyliwch am yr un nesaf. Byddem wrth ein boddau i’ch gweld chi yno!
Dysgu Cymraeg
Clwb Ieuenctid Capel Seion, Ealing GreenAr nosweithiau Gwener, mae ein disgyblion, ein cyn-ddisgyblion ac eraill yn cyfarfod i gymdeithasu ac i fwynhau pob math o weithgareddau dan arweinyddiaeth Miriam a Joanna. Fel y dywedodd un rhiant yn ddiweddar, 'maen nhw'n dwli ar y clwb'. Mae'r clwb yn rhoi cyfle i'r ieuenctid gyfarfod gan eu bod yn aml iawn erbyn hynny yn mynychu ysgolion gwahanol.Capeli Cymraeg LlundainMae'r capeli yn gefn mawr i'r ysgol. Derbynnir rhoddion hael gan nifer o gapeli ac i fynegi ein gwerthfawrogiad, mae'r ysgol yn cymryd rhan mewn cyngherddau a gwahoddir aelodau'r capeli i'n nosweithiau agored. Mae nifer o'r plant yn mynychu'r Ysgol Sul yn Ealing – mae hyn yn gyfle gwych i gadw cysylltiad â chyn-ddisgyblion heb sôn am gael dosbarthiadau llawn hwyl gan yr athrawon ymroddedig. Mae un o'r capeli yn agor ei drysau gyda chroeso cynnes i ni gynnal cyfarfodydd Bwrdd y Llywodraethwyr yno.Clwb Rygbi Cymry LlundainMae Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi ei leoli yn yr Old Deer Park yn Richmond sy'n gyfleus i'r ysgol. Mae nifer o'n disgyblion wedi ymuno â'r 'minis' a dysgu sut i chwarae rygbi mewn awyrgylch ddiogel a chyfeillgar gyda hyfforddwyr arbenigol. Fwy nag unwaith, mae plant o'r ysgol wedi rhedeg ar y cae yn cario'r faner cyn un o gemau mawr Cymry Llundain. Er nad yw'r ysgol yn ddigon mawr i gael tim rygbi, mae digonedd o gyfleoedd yn Llundain i ymuno mewn chwaraeon o bob math.
Codi Arian
Mae’n bosib codi arian drwy chwarae ein loteri 50:50 lle mae cyfle i ennill gwobr. Cysylltwch â’r ysgol am fanylion.Hefyd, pryd bynnag rydych chi’n prynu unrhywbeth ar-lein - o’ch siopa wythnosol i’ch gwyliau blynyddol - gallech chi gasglu rhodd am ddim i’r ysgol. Mae dros 3000 o siopau sy’n barod i wneud rhodd gan gynnwys Amazon, eBay, John Lewis, Booking.com a Sainsbury’s – ac ni fydd yn costio ceiniog i chi!Mae’n hawdd iawn. Y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud ydy:1.Ymuno. Cofrestru am ddim yma: www.easyfundraising.org.uk/causes/thelondonwelshschool/2.Siopa. Pob tro rydych chi’n siopa ar-lein, ewch i easyfundraising yn gyntaf, dewiswch y siop ac yna dechreuwch siopa.3.Codi arian. Ar ôl i chi dalu, bydd yr adwerthwr yn gwneud rhodd i’r ysgol heb gost ychwanegol! Does dim tâl neu bris cuddiedig. Canolfan Gymunedol HanwellMae i Ganolfan Gymunedol Hanwell hanes ddiddorol dros ben. O 1856 bu'n 'Cuckoo' School i blant amddifad a difreintiedig a bu nab llai na Charlie Chaplain yn ddisgybl yno. Bu Deep Purple yn ymarfer yno ym 1969 ac yn ddiweddarach ym 1999 defnyddiwyd un o'r neuaddau i ffilmio rhan o'r ffilm 'Billy Elliot'. Erbyn heddiw. mae yn eiddo i Fwrdeistref Ealing ac mae Ysgol Gymraeg Llundain wedi ei chartrefu mewn adain ar y llawr cyntaf. Mae gennym ystafelloedd dosbarth llawn golau naturiol gyda nenfydau uchel a lle hyfryd a diogel y tu allan i'r plant chwarae. Mae pob math o chwaraeon a dosbarthiadau yn cael eu cynnal yn y ganolfan. Gwyliwch y fideo byr i wybod mwy.
Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ŵyl flynyddol, genedlaethol a gaiff ei chynnal yn ystod wythnos lawn gyntaf mis Awst. Mae’n cwmpasu’r celfyddydau, chwaraeon a llawer iawn mwy. Mae gan Ysgol Gymraeg Llundain bresenoldeb ar stondin ‘Cymru a’r Byd’ a Llywodraeth Cymru sy’n gyfle delfrydol i hyrwyddo'r ysgol.Mae’r Urdd yn fudiad cenedlaethol i blant ac ieuenctid ac yn darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau. Rydym yn treulio dyddiau olaf tymor yr haf yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.Mae Eisteddfod yr Urdd yn rhan gynhenid o ddiwylliant Cymru a hi yw’r ŵyl ddiwylliannol, gystadleuol fwyaf yn Ewrop. Yng Nghlwb yr Urdd, un o'n clybiau wythnosol ar ôl ysgol, mae’r disgyblion yn cael hwyl di-ben draw yn paratoi ar gyfer pob math o gystadleuthau a gweithgareddau megis canu, actio, gwaith celf a choginio. Cynhelir Eisteddfod ‘Tu Allan i Gymru' sef y rownd ragbrofol i'r cystadleuwyr i sicrhau lle yn y prif ddigwyddiad yng Nghymru.Dros y blynyddoedd, rydym wedi derbyn llawer o wobrau am e.e. ysgrifennu rhyddiaith, gwaith serameg, ysgrifennu sgriptiau a dylunio cymeriad cartŵn yn yn ogystal â’r cystadleuthau ar y llwyfan. Cawsom lwyddiant eithriadol yn 2019 drwy ddod yn ail yn y genedlaethol yn y Gân Actol. Edrychwch ar ein fideo ar YouTube.O flwyddyn i flwyddyn, rydym yn sylwi ar welliant amlwg yn sgiliau pob plentyn p'un ai ydynt yn perfformio, dylunio, coginio neu greu.Cefnogwn gryfderau'r plant a gweithiwn ar agweddau yr hoffent eu gwella trwy eu helpu i baratoi ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau gwahanol. Dyma rai o’r cystadleuthau y mae ein disgyblion wedi cymryd rhan ynddynt. Mae rhywbeth i bawb:●Canu unigol●Deuawd●Llefaru unigol●Cyfansoddi barddoniaeth●Ysgrifennu darn o ryddiaith●Dawnsio gwerin●Cyflwyno cân werin●Unawd offerynnol●Dylunio gwaith serameg ●Coginio●Dyluniad crys-T●Creu ffilm fer●Dylunio a chreu cymeriad cartŵn newydd●Gwaith Celf 2D●Dylunio 3D●Ysgrifennu adolygiad o ffilm●Cystadlaethau ffotograffig: du a gwyn + lliw.HalibalŵMae Halibalŵ yn ddathliad bywiog, blynyddol o bopeth Cymraeg i deuluoedd â phlant yma yn Llundain. Caiff ei gynnal yng Nghanolfan Cymry Llundain yn nhymor yr Hydref ac mae wedi dod yn sefydlog yng nghalendr Cymry Llundain gyda chefnogwyr o bob cwr o'r ddinas. Daw’r enwog, y neiniau a’r teidiau, teuluoedd estynedig, ffrindiau a chyfeillion i fwynhau’r achlysur cwbl unigryw hwn.Cafodd ei sefydlu mewn ymateb i'r alwad am ddigwyddiad cyn oed ysgol ar gyfer teuluoedd oedd eisiau magu eu plant yn siaradwyr Cymraeg yn Llundain. Mae Halibalŵ yn gyfle i fabanod a phlant chwarae, gwrando ar straeon, cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft, canu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â'r grwpiau chwarae Cymraeg Miri Mawr a Dreigiau Bach, rhydd Halibalŵ gyfle i rieni drefnu i gwrdd â’i gilydd ac adeiladu rhwydwaith o gefnogaeth i’w hymdrechion i fagu eu plant yn ddwyieithog neu'n amlieithog yn Llundain. Mae CRhaFf Ysgol Gymraeg Llundain bob amser yn rhedeg caffi llawn bwrlwm wedi'i lenwi i’r ymylon gyda nwyddau cartref ac o wybod pa mor heriol yw bod yn rhiant, mae CRhaFf yn darparu bocsys cinio am ddim i bob plentyn.Yn rhan o’r digwyddiad y mae ddiddanwr o S4C, gyda llawer o ddawnsio, canu a symud - ni all y plant (na'u rhieni!) beidio â chael eu diddanu. Mae castell bownsio, sioe bypedau, gweithdy drama broffesiynol ar gyfer y plant hŷn, ioga rhiant a babi a ffotograffydd i enwi ond ychydig. Mae Mudiad Meithrin Cymru yn cefnogi'r digwyddiad drwy anfon cynrychiolwyr o Aberystwyth sydd â llu o gyngor ynglŷn â magu plant yn ddwyieithog. Hefyd, mae Rygbi Cymry Llundain wedi dod â chacennau cri a Dewi’r Ddraig i'r digwyddiad gyda chynrychiolwyr sy’n medru esbonio sut y medrwch gymryd rhan yn y sîn rygbi! Y mae rhywbeth i bawb.Yn 2023, ymunodd Elin a Rhian o'r Mudiad Meithrin â Chriw Cyw o S4C. Mwynheuodd y plant hŷn gyflwyniad ryngweithiol yn seiliedig ar fywyd a dylanwad Beti Campbell.Dyma ein digwyddiad diwethaf … Gwyliwch am yr un nesaf. Byddem wrth ein boddau i’ch gweld chi yno!