Ysgol Gymraeg Llundain © 2025 Website designed and maintained by H G Web Designs
Croeso gan y Pennaeth Strategaeth
Mae Ysgol Gymraeg Llundain yn ysgol fechan a chyfeillgar wedi'i lleoli yn Hanwell, ym mwrdeisdref Ealing,
Gorllewin Llundain. Rydym yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gyda’n disgyblion yn dod yn gwbl
dwyieithog erbyn blwyddyn 6. Mae bod yn ddwyieithog yn ei gwneud hi'n haws caffael 3ydd a 4ydd iaith.
Rydym yn ysgol annibynnol sy'n falch o'i hanes unigryw; rydym hefyd yn ysgol fyfyriol, sy’n esblygu i gwrdd ag
anghenion y dyfodol. Trwy hunan-werthuso - mae'r staff, Bwrdd y Cyfarwyddwyr, y rhieni a chefnogwyr yr ysgol i
gyd yn rhannu'r nôd o gynnal safonau addysgol uchel.
Ymfalchïwn yn llwyddiannau ein disgyblion, boed yn academaidd, ddiwylliannol neu bersonol. Trwy gymryd rhan
mewn digwyddiadau cymunedol yn Hanwell, Canolfan Cymry Llundain, y Capeli ac Eisteddfod yr Urdd, mae
ymdeimlad o berthyn i gymuned Gymraeg a Chymreig ehangach, boed hynny yn Llundain neu Gymru.
Wrth gyd-weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, rydym yn darparu’r Cwricwlwm i Gymru Newydd mewn
amgylchedd meithringar, anogol a diogel.
Mwynhewch eich taith trwy ein gwefan.
Croeso gan y Bwrdd
Mae Ysgol Gymraeg Llundain yn cynnig gymaint o gyfleon i blant. Gwn hyn fel rhiant ac yn awr fel llywodraethwr.
Mae’n ysgol hapus a byrlymus, ble mae plant yn ffynnu ymha bynnag faes y maent yn rhagori neu ymddiddori.
Dyma ddechreuad gwych i addysg eich plentyn - maent yn cael sylw unigol gyda’r addysgu wedi ei deilwra ar eu
cyfer.
Mae'r plant yn hapus a sâff gyda staff arbenigol a gofalgar. Gwelir y plant yn magu hyder drwy gymryd rhan
mewn gweithgareddau megis cyngherddau ac Eisteddfod yr Urdd. Maent yn cael y gorau o'r ddau fyd, - ysgol
gartrefol Gymraeg ynghanol bwrlwm Llundain gyda phopeth sydd gan ddinas ei gynnig.
Yn goron i’r cwbwl, mae ymweliad am dridiau á gwersyll yr Urdd Llangrannog ar ddiwedd tymor yr haf. Mae hwn
yn ymweliad i’r teulu cyfan ac yn gymaint o hwyl i bawb.
Dewch i ymweld á’r ysgol i chi gael profi hyn drostoch ein hunain.
Gyda dymuniadau gorau
Glenys Roberts
Cadeirydd y Llywodraethwyr
Croeso gan Cymdeithas Rhieni, Athrawon
a Ffrindiau (CRhAFf)
Mae CRhAFf yn rhoi'r cyfle i bawb ddod at ei gilydd yn gymdeithasol ac i greu cymuned gefnogol. Rydym hefyd
yn trefnu gweithgareddau codi arian er mwyn cynorthwyo gyda chostau rhedeg yr ysgol. Mae'r digwyddiadau
hyn yn gallu bod yn llawer o hwyl ac yn fodd i rieni fod yn rhan o gymuned yr ysgol.
Enghreifftiau o'n digwyddiadau ydy Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol, Halibalŵ, Carnifal Hanwell, Light up the
Lane, Diwrnodau Agored, y BarBCiw blynyddol a llawer mwy. Holwch yr ysgol am fanylion.
Estynnir croeso cynnes iawn i rieni newydd.
Rhieni newydd - peidiwch â bod yn swil - ymunwch yn y sbri yn y grwp cyfeillgar a chymdeithasol yma! Ac, os
oes gennych syniadau am ddigwyddiadau neu fod gennych ddoniau yr hoffech eu rhannu, cysylltwch yn syth!
Sut mae CRAFF yn codi arian?
Ysgol
Gymraeg Llundain
‘A fynn, a fedr’
020 8575 0237
Croeso i wefan
Ysgol Gymraeg Llundain
Addysg unigryw, ddwyieithog mewn dosbarthiadau llai i ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed
Cyfeiriad
Ysgol Gymraeg Llundain
Canolfan Gymunedol Hanwell
Westcott Crescent
Hanwell
Llundain
W7 1PD
Gwybodaeth
Pennaeth: Ms Julie K Watkins
B.A.Hons, PGCE, M.Ed Cantab
Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479
Julie Watkins
BA Hons, PGCE, M.Ed
Caergrawnt