Rydym ni yn Nosbarth Un yn awyddus i’ch gwahodd i gymryd rhan yn ein rhaglen newydd ‘Darllenydd Dirgel’. Cyfle i’r disgyblion ydy hyn i glywed straeon ac i holi cwestiynau. Os hoffech gymered rhan, cysylltwch â’r ysgol ar info@ysgolgymraegllundain.co.
28.04.17
Stori hyfryd, ‘Beth Nesaf’, cawsom heddiw gan Dr Beetham. Diolch yn fawr iawn!
10.02.17
Diolch Raf am ddarllen y stori ‘How Big is a Million?’. Roedd y plant wrth eu boddau yn cyfri!
27.01.17
Am stori hyfryd o Affrica heddiw am yr hipapotamws. Diolch Helen am fod yn ddarllenydd dirgel heddiw.
13.01.17
Stori Cymraeg yr wythnos hon gan ein Cadeirydd y Bwrdd, diolch Margaret!
09.12.16
Mam-gu Daniel oedd ein Darllenydd Dirgel heddiw!
18.11.16
Sara-Ellen oedd ein Darllenydd Dirgel heddiw a ddarllenodd ei stori ei hun, gwych!
04.11.16
Ein Darllenydd Dirgel cyntaf! Roedd y plant wrth eu boddau yn gwrando ar straeon Sali Mali. Diolch Glenys!