020 8575 0237
info@ygll.co.uk

Gweledigaeth a Gwerthoedd

Gweledigaeth a Gwerthoedd

Dyma wybodaeth bellach am Weledigaeth a Gwerthoedd Ysgol Gymraeg Llundain.

Cenhadaeth yr Ysgol

Cenhadaeth ein hysgol yw gwasanaethu ein cymuned drwy ddarparu amgylchedd cynhwysol a diogel lle rydym yn gweithio i alluogi ein plant i ddatblygu’n ddysgwyr gydol oes hyderus ac yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol.

Yma yn Ysgol Gymraeg Llundain rydym yn dilyn Cwricwlwm i Gymru sy’n darparu cyfleoedd cyfoethog a heriol i ysgogi ein plant. Mae cariad at ddysgu yn cael ei feithrin drwy arbrofi, darganfod ac ymchwilio testunau trawsgwricwlaidd. Mae sgiliau rhifedd a llythrennedd yn plethu trwy holl brofiadau dysgu gan ddarparu sylfaen gadarn i blant cyrraedd eu llawn botensial.

Rydym yn anelu at:

  • Paratoi plant annibynnol sydd a’r sgiliau i allu i ddatrys problemau er mwyn iddynt lwyddo mewn bywyd y tu hwnt i ysgol gynradd
  • Cynnal amgylchedd diogel a hapus lle mae pob plentyn yn cael y cyfle i ddatblygu’n bersonol, yn gorfforol, yn gymdeithasol, yn academaidd ac yn ysbrydol
  • Dysgu cwricwlwm creadigol, ysgogol, ystyrlon a pherthnasol ag ystod eang o brofiadau dysgu i ddiwallu gwahanol anghenion plant unigol.
  • Annog llawenydd a brwdfrydedd ar gyfer dysgu o fewn pob plentyn.
  • Creu partneriaeth â rhieni lle maent yn cymryd rhan weithredol ag addysg eu plentyn.
  • Annog y plant i arbrofi at ddysgu a gwneud camgymeriadau er mwyn cael yr hyder i roi cynnig arall arni.
  • Sicrhau bod gan bob plentyn gyfle cyfartal i ddatblygu ei botensial.