020 8575 0237
info@ygll.co.uk

Addysg Bersonol, Gymdeithasol, Iechyd ac Economaidd

Addysg Bersonol, Gymdeithasol, Iechyd ac Economaidd

Dyma wybodaeth bellach am ein darpariaeth Addysg Bersonol, Gymdeithasol, Iechyd ac Economaidd yn Ysgol Gymraeg Llundain.

Bwriad

Yn Ysgol Gymraeg Llundain, mae addysg bersonol, gymdeithasol, iechyd ac economaidd (ABGIE) yn rhan annatod o’n cwricwlwm eang a chytbwys. Mae AGBIE yn galluogi ein plant i ddod yn aelodau annibynnol a chyfrifol o gymdeithas trwy eu haddysgu am eu hawliau a’u cyfrifoldebau a thrwy fynd at y materion moesol, cymdeithasol a diwylliannol niferus y byddant yn eu hwynebu yn y byd ehangach, mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Drwy ein hethos ysgol ehangach, anogir plant i ddatblygu eu hunan-werth drwy chwarae rôl gadarnhaol wrth gyfrannu at fywyd yr ysgol a’r gymuned ehangach.

  • Hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion
  • Arfogi disgyblion i fagu hyder wrth rannu eu meddyliau a’u barn eu hunain
  • Addysgu ein disgyblion am ddiogelwch personol (ar-lein ac all-lein) a sicrhau bod disgyblion yn gwybod sut i gael help os oes angen a ble i ddod o hyd iddo
  • Dyfnhau dealltwriaeth ein disgyblion o werthoedd Prydeinig sylfaenol o ddemocratiaeth, rhyddid unigol, y gyfraith a pharch a goddefgarwch cydfuddiannol
  • Dathlu’r gwahaniaethau rhwng pobl a gwerthfawrogi’r diwylliannau y gall ein cymuned amrywiol eu cynnig
  • Meithrin dyheadau uchel, cred ynddynt eu hunain a sylweddoli bod unrhyw beth yn bosibl gyda meddylfryd twf
  • Paratoi disgyblion ar gyfer eu cam cynnydd nesaf a chymdeithas ehangach sy’n newid yn barhaus
  • Datblygu eu gwybodaeth a’u deallusrwydd emosiynol er mwyn deall y gymdeithas amrywiol heddiw
  • Meithrin iechyd meddwl a chorfforol
  • Parchu eraill a thrafod materion mewn modd sensitif, meddwl yn feirniadol a datblygu sgiliau perthynas
  • Myfyrio ar gyfleoedd a dylanwadau (megis gan gyfoedion, y cyfryngau, diwylliant) a all siapio agweddau

Gweithredu

Mae ein cynllun gwaith (sy’n dilyn cynllun gwaith ABGIE cynradd Ealing) yn adlewyrchu anghenion ein disgyblion. Mae’r cynllun gwaith wedi ei rannu’n dair thema graidd: Iechyd a Lles, Perthnasoedd a Byw yn y Byd Ehangach. Mae disgwyl i athrawon ddefnyddio dilyniant unedau’r ysgol i greu gwersi sy’n dilyn y cynllun gwaith hwn, fel bod themâu yn gynyddol wrth i’r plant symud drwy’r ysgol. Credwn fod ABGIE yn chwarae rhan hanfodol o addysg gynradd ac mae’n cael ei addysgu’n wythnosol.

  • Sicrhau bod staff yn hyrwyddo defnydd ‘Y Gornel Gymorth’, sef gofod gydag amrywiaeth glir o strategaethau ac offer sydd ar gael I’r plant
  • Addysgu plant sut i reoli eu hemosiynau drwy’r Parthau Rheoli
  • Addysgu gwersi deniadol, amserol a pherthnasol unwaith yr wythnos yn seiliedig ar gynllun gwaith AGBIE yr ysgol
  • Sicrhau bod datblygiad personol, cymdeithasol, iechyd ac economaidd yn cael eu hannog ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad lle bo hynny’n berthnasol
  • Rhoi amser i blant fyfyrio ar eu meddyliau a’u barn a’u cofnodi
  • Cymryd rhan mewn digwyddiadau rheolaidd sy’n hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol a diwylliannol a helpu i godi arian I’r gymuned ehangach
  • Cynnal gwasanaethau wythnosol i gyfarfod fel grŵp ar y cyd i ddysgu am faterion pwysig a’u trafod – diwrnod ‘Jeans for Genes’, ‘Diwrnod Rhyngwladol Democratiaeth’, ‘Wythnos Iechyd Meddwl Plant’ a ‘Diwrnod Rhyngwladol Menywod’ ymhlith llawer eraill
  • Cynnal gwasanaethau wythnosol i fynd i’r afael â phryderon a meddyliau, trafod digwyddiadau sydd ar y gweill ac i wobrwyo a dathlu disgyblion mewn cysylltiad â’r Pedwar Diben
  • Cyflwyno hyfforddiant rheolaidd a chyfredol ar Ddiogelu, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Diogelwch Ar-lein

Traweffaith

O ganlyniad i’n cwricwlwm ABGIE cynyddol, mae plant yn aelodau iach a chyfrifol o gymdeithas, yn barod ac yn gallu cydweithio, cael meddylfryd twf a pharchu Gwerthoedd Prydeinig. Mae plant yn gadael Ysgol Gymraeg Llundain â hunan-hyder ac ymdeimlad o hunan-werth wrth iddynt agosáu at gam nesaf eu haddysg.

Mesurir traweffaith ein cynllun gwaith ABGIE trwy:

  • Y plant yn defnyddio iaith barchus gyda’i gilydd, oedolion ac yn y gymuned ehangach
  • Y plant yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau yn effeithiol, ochr yn ochr ag ‘Y Gornel Gymorth’ a’r Parthau Rheoli i gydnabod, deall a rheoli eu hemosiynau
  • Y plant yn cydnabod a chymhwyso y gwerthoedd Prydeinig o Ddemocratiaeth, Goddefgarwch, Parch Cydfuddiannol, y Gyfraith a Rhyddid
  • Allu’r plant i drafod ffyrdd i gynnal ffordd iach o fyw
  • Y plant yn dangos hunan-hyder a hunan-barch
  • Y plant yn deall pa mor amrywiol yw ein cymdeithas a pharchu a gwerthfawrogi’r amrywiaeth hon
  • Gyfloedd Asesu ar gyfer Dysgu drwy gydol gwersi
  • Ganlyniadau’r dysgu plant yn y llyfrau llawr AGBIE

Asesu

Mae asesu o fewn gwersi ABGIE yn cynnwys cwestiynu, arsylwi a monitro cyfranogiad. Mae cwestiynau gwersi yn caniatáu i athrawon fod yn ymwybodol o’r cyfleoedd i asesu o fewn gwersi. Mae hyn yn sicrhau bod y disgyblion yn adeiladu ar eu sgiliau a’u gwybodaeth dros gyfnod o amser. Mae cyfleoedd ar gyfer hunan-asesu ac asesu cymheiriaid wedi’u gwreiddio.

Ewch i’n tudalen Polisïau i ddarllen ein Polisi Addysg Bersonol, Gymdeithasol, Iechyd ac Economaidd.